John Denham

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Syr John Denham)
John Denham
Ganwyd1615 Edit this on Wikidata
Dulyn Edit this on Wikidata
Bu farw19 Mawrth 1669 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethbardd, ysgrifennwr, bardd-gyfreithiwr, gwleidydd, cyfreithiwr Edit this on Wikidata
SwyddAelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Member of the 1661-79 Parliament Edit this on Wikidata
PriodAnn Cotton Edit this on Wikidata
PlantAnne Morley Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Faglor, Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol Edit this on Wikidata

Bardd a llenor o Sais oedd Syr John Denham (1615 - 10 Mawrth 1669). Wrth gyfieithu yr Enid gan Fyrsil o'r Lladin i Saesneg, defnyddiodd ddulliau o gyfieithu rhydd. Roedd Denham yn frenhinwr tanbaid a defnyddiodd y cyfieithiad hwn i hyrwyddo'i agenda gwleidyddol.

Ailysgrifenodd Denham lawer o waith gwreiddiol Fyrsil a'i addasu at ei ddefnydd ei hun, er enghraifft, yn Llyfr II, newidiodd Denham yr enw Priam gan ddefnyddio "the King" yn unig fel y gallai ei gynulleidfa Seisnig uniaethu â'r sefyllfa. Gellir gweld tebygrwydd rhwng dienyddiad Priam a Siarl I. Gwaneth hefyd adael cymeriadau ac enwau llefydd allan a fyddai'n gosod y stori'n amlwg y tu allan i Loegr. Cafwyd fersiwn arall o'r un testun ym 1656, yn fersiwn fwy rhugl.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]


Baner LloegrEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.