Swoosie Kurtz
Oddi ar Wicipedia
Swoosie Kurtz ar noson agoriadol Poliwood
Mae Swoosie Kurtz (ganed 6 Medi, 1944) yn actores Americanaidd. Dechreuodd ei gyrfa ym myd y theatr yn ystod y 1970au cyn symud ymlaen i yrfa ar y sgrîn fach, lle derbyniodd deg enwebiad ac ennill un Gwobr Emmy. Ymddangosodd mewn nifer o ffilmiau, gan gynnwys y ffilmiau Dangerous Liaisons (1988), Citizen Ruth(1996), a Liar Liar (1997). Trwy gydol ei gyrfa, mae hi wedi parhau i berfformio yn y theatr, gan gael ei henwebu am bum Gwobr Tony a chan ennill dau ohonynt. Yn fwy diweddar, serennodd yng nghyfres ddrama ABC, Pushing Daisies.