Swamp Women

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Poster gwreiddiol Swamp Women

Ffilm antur gan y cyfarwyddwr Americanaidd Roger Corman yw Swamp Women (1955). Mae'n enwog fel enghraifft glasurol o'r ffilmiau-B poblogaidd a gynhyrchwyd yn Hollywood yn y 1950au a'r 1960au. Ffilm am beddair merch yn dianc o'r carchar i chwilio am arian a guddiwyd mewn cors ydyw. Mae'n enghraifft dda o ffilm "sexploitation" hefyd, ond mae'r actio a'r saethu yn nodweddiadol o ffilmiau B y cyfnod, heb fawr o werth artistaidd na dramataidd.