Sushi

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Amrywiaeth o nigiri-zushi yn barod i'w fwyta

Pryd bwyd poblogaidd o Japan yw Sushi (Siapaneg: 寿司, 鮨, neu 鮓) wedi ei wneud o reis wedi ei goginio a'i orchuddio neu lenwi â chynwysion eraill, megis pysgod.

Yr enw ar bysgod amrwd wedi ei dorri mewn darnau bach yw sashimi, sydd yn wahanol i sushi. Ceir nifer o wahanol fathau o sushi, er enghraifft makizushi (巻き) lle caiff y reis ei lapio gan wymon wedi ei sychu (nori), neu inarizushi lle caiff y reis ei osod mewn poced o dofu wedi ei ffrio.

Maeth[golygu]

Caiff sushi mewn siopau yn Japan eu gwerthu yn aml mewn bocsys plastig.

Mae prif gynhwysion naturiol sushi, pysgod amrwd a reis, yn isel mewn braster, yn cynnwys protein, carbohydradau, fitaminau, a mwynau. Ni ellir dweud yr un peth am sushi Gorllewinol sydd yn aml yn cynnwys mayonnaise, afocado, neu gaws hufen.

Mae'r rhan fwyaf o fwyd môr yn isel mewn braster, gyda'r hynny o fraster sydd ar ol yn fraster annirlawn ac felly yn cynnwys lefelau uchel o Omega-3. Gan fod pysgod mewn sushi yn aml yn amrwd, ni chaiff olew coginio ei ychwanegu i'r broses o'i baratoi.