Sommaren med Monika

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Summer with Monika)
Sommaren med Monika
Haf efo Monika
Poster gwreiddiol y ffilm
Cyfarwyddwyd ganIngmar Bergman
Cynhyrchwyd ganAllan Ekelund
Awdur (on)Ingmar Bergman
Per Anders Fogelström (llyfr)
Yn serennuHarriet Andersson
Lars Ekborg
Cerddoriaeth ganErik Nordgren
Les Baxter
Rhyddhawyd gan9 Chwefror 1953, Sweden
1 Medi 1955, UDA
Hyd y ffilm (amser)96 mun
GwladSweden
IaithSwedeg

Ffilm o Sweden yw Sommaren med Monika (Swedeg, sy'n golygu Un haf gyda Monika yn Gymraeg) a gafodd ei gwneud yn 1953 a'i chynhyrchu gan Ingmar Bergman. Daeth yn bwnc llosg ar unwaith am fod y ffilm yn cynnwys golygfeydd o gyrff noeth. Gyda chymorth Hon dansade en sommar a ddaeth allan flwyddyn ynghynt, torrodd dir newydd gan wneud Sweden yn flaenllaw ac yn enwog am ryddid rhywiol.

Y ffilm hon, yn fwy na 'run ffilm arall, a wnaeth yr actores Harriet Andersson yn bomshell rhywiol. Roedd hi wedi cael perthynas gydag Ingmar Bergman am dipyn cyn hynny, ac mi wnaethon nhw gydweithio ar ffilmiau fel Sawdust and Tinsel, Smiles of a Summer Night, Through a Glass Darkly a Cries and Whispers ar ôl i'w perthynas orffen.

Stori[golygu | golygu cod]

Mae'r stori'n cael ei lleoli yn y rhan dlotaf o Stockholm. Mae Harry (Lars Ekborg) a Monika (Harriet Andersson) mewn swyddi gwael ac mae'n nhw'n syrthio mewn cariad. Pan mae Monika'n dod i drwbwl adref mae Harry'n dwyn cwch ei dad ac mae'r ddau'n cael haf bendigedig ar bentir rhamantus. Ond pan ddaw'r haf i ben, mae'n rhaid i'r ddau fynd adref, ac mae'n amlwg fod Monika yn feichiog. Mae'r ddau'n setlo i lawr efo'i gilydd i fagu'r plentyn. Ond dydy Monika ddim yn hoff o waith tŷ; mae hi isio rhamant ac antur, ac mae hyn yn ei harwain hi i chwilio am rywbath gwell... Mae Harry'n cael ei adael adref i fagu'r babi.

Lansio yn UDA[golygu | golygu cod]

Dwy ffurflen yn sôn am lawnsio'r ffilm yn America

Prynodd Kroger Babb hawliau'r ffilm yn 1955. I wneud y ffilm yn fwy poblogaidd yn yr Unol Daleithiau cynyddodd y golygfeydd erotig a lleihau'r darnau a ystyrwyd yn "ddiflas" ganddo. Ailenwodd y ffilm yn Monika, the Story of a Bad Girl, a gwnaeth lawer o daflenni hyrwyddo awgrymog.[1]

Dylanwad[golygu | golygu cod]

Sommaren med Monika (dan y teitl Saesneg Summer with Monika) oedd y ffilm Bergman cyntaf i Woody Allen ei gweld. Dywedodd ei fod wedi mynd i weld y ffilm am fod llawer o sôn yn lleol am olygfa noeth. Aeth i'w gweld a chael ei gyfareddu gan y ffilm "hynod ddiddorol" er mai byr a diniwed oedd yr olygfa noeth. Yn fuan wedyn gwelodd ffilm arall gan Bergman, sef Sawdust and Tinsel (teitl Saesneg), er nad oedd yn gwybod mai Bergman a'i gwnaeth. Roedd yn rhwym yn ei gadair gydag edmygedd gan feddwl "Pwy ydy'r boi 'ma?".[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Eric Schaefer, Bold! Daring! Shocking! True!: A History of Exploitation Films, 1919–1959 (Durham, N.C.: Duke University Press, 1999; ISBN 0-8223-2374-5).
  2. Kilday, Gregg (4 February 2011). "Woody Allen Pays Tribute to Ingmar Bergman: 'His Approach Was Poetic'". The Hollywood Reporter. Cyrchwyd 2013-10-10. Testun Saesneg: "The first Bergman I ever saw was that one because there was talk in the neighborhood that there was a nude scene. This was unheard of in any American film, that level of advancement. It’s so funny to think of it that way. I saw it, and it was a very, very interesting film apart from the utterly benign nude moment. A short time after that, I just happened to see Sawdust and Tinsel. I had no idea it was done by Bergman — that is, the person who’d done Summer with Monika — and it was just a fabulous movie. I was riveted in my seat by it all. I thought to myself, 'Who is this guy?'”