Sul y Mamau

Oddi ar Wicipedia
Dyddiadau
2017 26 Mawrth
2018 11 Mawrth
2019 31 Mawrth
2020 22 Mawrth

Gŵyl Gristnogol a masnachol sy'n digwydd ar y pedwerydd Sul yng nghyfnod y Grawys ydy Sul y Mamau. Caiff ei chydnabod a'i dathlu gan Gristnogion Pabyddol a Phrotestanaidd drwy Ewrop a mannau eraill, yn bennaf drwy anrhydeddu'r fam drwy weithred ymarferol neu symbolaidd. Yn aml, rhoddir anrheg i'r fam neu gwneud un o'i gorchwylion arferol yn ei lle e.e. coginio pryd o fwyd arbennig.[1] Fe'i gelwir fwyfwy yn Saesneg yn Mother's Day, sy'n dangos y gwahanu oddi wrth y cysylltiad Cristnogol pan arferid defnyddio'r term Mothering Sunday. Nodir hefyd fod y pwyslais wedi troi o bob mam i'r unigol, yn wahanol i'r Gymraeg lle dethlir cyfraniad holl famau'r byd.

Yn draddodiadol, hefyd, arferid dathlu'r stori feiblaidd o Grist yn rhannu pum torth a dau bysgodyn i'r dorf ar y diwrnod hwn.

Hanes[golygu | golygu cod]

Poster Ffrengig a wnaed gan Félix Régamey yn 1906

Yn ystod yr 16g, roedd hi'n arferiad mewn rhai mannau i Gristnogion ymweld â'r fam-eglwys, sef yn aml yr eglwys fwyaf yn y dref agosaf, neu'r eglwys gadeiriol leol, am wasanaeth ar bedwerydd Sul y Pasg, neu'r Sul Laetare fel mae'n dal i gael ei alw (Ffrangeg: mi-carême - "canol y Grawys"). Enw arall ar y diwrnod hwn yw 'Sul y Rhosyn' i gofio'r arferiad pan oedd y Pab yn danfod rhosyn i frenhinoedd y gwledydd Pabyddol; gwisgai offeiriad ddillad pinc, neu rose ar y dydd hwn hyd heddiw i gofio hyn.[1] Dyma, o bosib darddiad y cysylltiad gyda'r 'fam'. Mae'n bosibl hefyd fod yma hen wyl baganaidd llawer cyn hynny, sydd bellach wedi mynd ar goll e.e. yn gysylltiedig â 'Moel Famau' neu'r Tylwyth Teg ('Bendith y Mamau').

Oddeutu dau gan mlynedd yn ôl, arferid rhoi caniatâd i forwynion a gweision i gael diwrnod i ymweld â'r fam-eglwys - gyda'u mamau ac aelodau eraill o'r teulu. Yn aml, dyma'r unig ddiwrnod pan y cânt fod gyda'u teulu oherwydd eu bont yn gweithio ar ddyddiau gŵyl megis y Nadolig.[2]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]