Sugababes
| Sugababes | |
|---|---|
| Gwybodaeth gefndirol | |
| Man geni | Llundain, Lloegr |
| Cerddoriaeth | Pop R&B |
| Blynyddoedd | 1998–presennol |
| Label(i) recordio | London Records Island Records |
| Gwefan | Sugababes.com |
| Aelodau | |
| Heidi Range Amelle Berrabah Jade Ewen |
|
| Cyn aelodau | |
| Siobhan Donaghy Mutya Buena Keisha Buchanan |
|
Grŵp pop merched o Loegr ydi Sugababes. Cafodd y grŵp ei sefydlu yn 1998 gan Keisha Buchanan, Mutya Buena a Siobhan Donaghy. Ymadawodd Donaghy y grŵp yn 2001 a daeth Heidi Range, cyn aelod o'r grŵp Atomic Kitten. Gadawodd Buena y grŵp yn 2005 a daeth Amelle Berrabah yn ei lle. Mae'r grŵp yn cael ei gysidro fel y grŵp merched mwyaf llwyddiannus yn Ewrop ers Spice Girls ac maent wedi cael eu henwi yn yr act fenywaidd mwyaf llwyddiannus yr unfed ganrif ar hugain gan y BBC. Mae chwech o'u caneuon wedi cyrraedd rhif un yn siartiau'r DU, dau albwm wedi cyrraedd rhif un yn siartiau albwm y DU, a pedwar albwm arall wedi cyrraedd y "top 10". Maent hefyd wedi llwyddo i gael senglau rhif un mewn mwy na 10 gwlad arall o amgylch y byd, yn cynnwys Seland Newydd, Awstria a Gwlad Pŵyl. Yn 2009, disodlwyd Buchanan o achos roedd gwrthdaro rhyngddi hi a'r aelodau eraill, Berrabah a Range. Daeth Jade Ewen, sy'n enwog am ei pherfformiad yn y Gystadleuaeth Cân Eurovision 2009, yn lle Buchanan.
Disgyddiaeth [golygu]
Albymau stiwdio [golygu]
- One Touch (2000)
- Angels with Dirty Faces (2002)
- Three (2003)
- Taller in More Ways (2005)
- Change (2007)
- Catfights and Spotlights (2008)
- Sweet 7 (2010)
Albymau eraill [golygu]
- Overloaded: The Singles Collection (2006)