Studs Terkel

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Terkel mewn rali yn 2007, yn hybu gofal iechyd i bawb

Awdur, hanesydd, actor a darlledwr Americanaidd oedd Louis "Studs" Terkel (16 Mai 1912–31 Hydref 2008).

Bywgraffiad[golygu]

Bywyd cynnar[golygu]

Ganwyd Terkel yn Ninas Efrog Newydd i rieni Iddweg o Rwsia, ond symudodd i Chicago, Illinois tra'n wyth oed, ac yno treuliodd rhanfwyaf o'i fywyd. Roedd ei dad, Robert, yn deiliwr a'i fam, Anna (Finkel), yn berfformwaig syrcas. Roedd ganddo ddau frawd, Ben (1907–1965) a Meyer.

O 1926 hyd 1936, roedd ei rieni yn rhedeg eu tŷ fel llety, a oedd yn fan casglu i amryw o bobl. Roedd Terkel yn rhoi'r credyd am ei holl wybodaeth o'r byd i'r tenantiaid a oedd yn ymgasglu yn y cyntedd a'r pobl a ymgasglodd yn Bughouse Square gerllaw. Yn 1939, priododd Ida Goldberg (1912–1999) a cawsont fab, Paul (adnabyddir hefyd fel Dan), a enwyd ar ôl Paul Robeson.

Derbyniodd Terkel ei J.D. o Ysgol Cyfraith Prifysgol Chicago yn 1934, ond dywedodd ei fod eisiau bod yn concierge mewn gwesty yn hytrach na ymarfer y gyfraith, ac ymunodd â grŵp theatr yn fuan wedyn.[1]

Gyrfa[golygu]

Wiki letter w.svg   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Llyfryddiaeth[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

Dolenni allanol[golygu]