Stuart Dangerfield

Oddi ar Wicipedia
Stuart Dangerfield
Gwybodaeth bersonol
Enw llawnStuart Dangerfield
LlysenwDangermouse
Dyddiad geni (1971-09-17) 17 Medi 1971 (52 oed)
Taldra5' 8"
Pwysau64 kg
Manylion timau
DisgyblaethFfordd
RôlReidiwr
Math seiclwrTreial Amser
Tîm(au) Amatur
Tîm(au) Proffesiynol
1997
1998
1999
2000-2003
2004-
Wheelbase CC
Fastrack RT
Bio RT-MDT
Camel Valley CC
scienceinsport.com
Golygwyd ddiwethaf ar
3 Hydref, 2007

Seiclwr cystadleuol Seisnig ydy Stuart Dangerfield (ganwyd 17 Medi 1971, Willenhall, Gorllewin y Canolbarth), sy'n arbenigo mewn Treialon Amser. Bu'n domineiddio yng nghystadleuthau treialon amser pellter byr ym Mhrydain yn ystod y 1990au a dechrau'r 2000au. Dechreuodd rasio yn 1984 tra'n 12 oed gan ymuno â'i glwb lleol, Wolverhampton Wheelers. Er iddo rasio dros nifer o dimau wedi eu noddi erbyn hyn, mae dal yn aelod o'r Wolverhampton Wheelers. Trodd yn seiclwr proffesiynol yn 1997.[1]

Enillodd Dangerfield ei Bencampwriaeth Cenedlaethol RTTC (CTT erbyn hyn) cyntaf yn 1992, yn y ras dringo allt.. Aeth ymlaen i aidrodd y fuddugoliaeth hon yn 1993, 1995, 1996 ac 1997. Yn 1997, bu hefyd yn bencampwr 25 milltir; enillodd y bencampwriaeth hon mewn pum blynedd olynol rhwng 2000 a 2004. Enillodd y bencampwriaeth 10 milltir yn 2001, 2003 a 2004. Torodd y record gystadleuoaeth dros bellter o 10 milltir gan osod amser newydd o 18 munud 19 eiliad (32.76 milltir yr awr), gan guro'r record gynt a osodwyd gan Graeme Obree yn 1993, o wyth eiliad.

Mae Dangerfield wedi Cynyrchioli Prydain ym Mhencampwriaethau Treial Amser y Byd yn yr Iseldiroedd yn 1998: Llydaw yn 2000; Portiwgal, 2001; ac yng Gwlad Belg yn 2002. Cynyrchiolodd Loegr yng Ngemau'r Gymanwlad yng Nghanada yn 1994; Maleisia yn 1998; ac ym Manceinion yn 2002.[1]

Ni adnabyddir Dangerfield lawer tu allan i fyd seiclo cystadleuol ym Mhrydain, gan iddo dyfu i fyny yng nghysgod seiclwyr enwog yr un adeg megis Chris Boardman a David Millar. Er hyn, achosodd cyfaddawd Millar, iddo gymryd cyffuriau anghyfreithlon (EPO) ar un adeg, iddo gael ei wahardd o dîm Prydain ar gyfer Gemau Olympaidd yr Haf Athen 2004; creodd hyn wagle yn y tîm, a rhoi'r cyfle i Dangerfield ymuno â'r tîm a chystadlu yn y treial amser.[1][2] Cystadlodd yn y Ras Ffordd yn ogystal, pan gafodd Jeremy Hunt anaf ac felly'n methu cystadlu.

Canlyniadau[golygu | golygu cod]

1992
1af Pencampwriaethau Cenedlaethol Treial Amser, CTT, ras dringo allt
1993
1af Pencampwriaethau Cenedlaethol Treial Amser, CTT, ras dringo allt
1995
1af Pencampwriaethau Cenedlaethol Treial Amser, CTT, ras dringo allt
1996
1af Pencampwriaethau Cenedlaethol Treial Amser, CTT, ras dringo allt
1997
1af Pencampwriaethau Cenedlaethol Treial Amser, CTT, ras dringo allt
1af Pencampwriaethau Cenedlaethol Treial Amser, CTT, 25 Milltir
2000
1af Pencampwriaethau Cenedlaethol Treial Amser, CTT, 25 Milltir
2001
1af Pencampwriaethau Cenedlaethol Treial Amser, CTT, 10 Milltir
1af Pencampwriaethau Cenedlaethol Treial Amser, CTT, 25 Milltir
2002
1af Pencampwriaethau Cenedlaethol Treial Amser, CTT, 25 Milltir
2003
1af Pencampwriaethau Cenedlaethol Treial Amser, CTT, 25 Milltir
1af Pencampwriaethau Cenedlaethol Treial Amser, CTT, 10 Milltir
2004
1af Pencampwriaethau Cenedlaethol Treial Amser, CTT, 25 Milltir
1af Pencampwriaethau Cenedlaethol Treial Amser, CTT, 10 Milltir
2005
3ydd Pencampwriaethau Cenedlaethol Treial Amser, CTT, 10 Milltir

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]