Stripio

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Merch yn stripio mewn clwb nos neu strip club (clwb stripio).

Stripio (neu "dinoethi") ydy'r weithred o dynnu neu ddiosg dillad o'r corff mewn modd erotig (striptîs).[1] Mae'r person sy'n gwneud hyn er diddori yn cael ei galw'n "stripar" ac weithiau mae dawnsiwr polyn yn tynnu ei dillad i ffwrdd, ac felly'n gneud striptîs. Ar adegau arbennig mae pobl yn talu person (neu "strip-o-gram") i wneud hyn am hwyl, wedi ei gwisgo fel plismon, nyrs neu wisg ffantasi arall.

Mae merched wedi bod yn stripio yn y Windmill Theatre yn Llundain ers 1032, yn ogystal a chabaret, canu a pherfformiadau amrywiol gan sioeferched a gelwir adeilad o'r fath yn glwb stripio (strip club) a cheir ar adegau stripio erotig mewn clybiau nos. Efallai mai'r clybiau stripio enwocaf, fodd bynnag yw'r Folies Bergère a sefydlwyd yn 1869 a'r Moulin Rouge a sefydlwyd gan Charles Zidler a Joseph Oller a hynny ger Montmartre ym Mharis.

Mata Hari, 1906

Am flynyddoedd edrychwyd ar stripio erotig fel tabw ac roedd deddfau pwrpasol i'w atal mewn nifer o wledydd. Mae'n bosibl mai yn Babilon y ceir y cyfeiriad cyntaf at stripio er pleser. Yng Ngwlad Groeg, sefydlodd Solon yn y 6ed ganrif Cyn Crist sawl dosbarth gwahanol o buteiniaid gan gynnwys yr auletrides, sef dawnswyr benywaidd erotig.[2][3][4] Roedd gan y Rhufeiniaid hefyd ferched a ddawnsiai'n erotig, gan ddiosg eu dillad, ac a oedd yn rhan o'r adloniaint a elwir yn ludi yn y Floralia pob mis Ebrill.[5] Arferai'r Ymerodres Theodora yn y 6ed ganrif stripio mewn dawns a oedd yn darlunio stori Leda a'r Alarch.[6] Ymddengys, felly fod stripio'n gwbwl dderbyniol gan gymdeithas ledled y byd hyd at ddyfodiad yr Eglwys Gristnogol yn y 7fed ganrif ac ni cheir lawer o gyfeiriadaeth at y weithred hon yn y Canol Oesoedd.

Gweler hefyd[golygu]

  • Llygadu (sbecian neu voyeuriaeth)

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Richard Wortley (1976) A Pictorial History of Striptease: 11.
  2. Zaplin, Ruth (1998). Female offenders: critical perspectives and effective interventions. Jones & Bartlett Learning. tud. 351. ISBN 978-0-8342-0895-7. http://books.google.com/books?id=CNM_xibHGIsC&pg=PA351&lpg=PA351&dq=Solon+greece+auletrides#v=onepage&q=Solon%20greece%20auletrides&f=false. 
  3. Jeffreys, Sheila (2009). The industrial vagina: the political economy of the global sex trade. Taylor & Francis. tud. 86–106. ISBN 978-0-415-41233-9. http://books.google.com/books?id=-9U7Eqp8NigC&pg=PA90&lpg=PA90&dq=uk+strip+club+revenues#v=onepage&q=uk%20strip%20club%20revenues&f=false. 
  4. Baasermann, Lugo (1968). The oldest profession: a history of prostitution. Stein and Day. tud. 7–9. ISBN 0-450-00234-9. http://books.google.com/books?id=oQiLAAAAIAAJ&dq=auletrides+strip&q=auletrides#search_anchor. 
  5. As described by Ovid, Fasti 4.133ff.; Juvenal, Satire 6.250–251; Lactantius, Divine Institutes 20.6; Phyllis Culham, "Women in the Roman Republic," in The Cambridge Companion to the Roman Republic (Cambridge University Press, 2004), p. 144; Christopher H. Hallett, The Roman Nude: Heroic Portrait Statuary 200 B.C.–A.D. 300 (Oxford University Press, 2005), p. 84.
  6. Evans, James Allan (2003). The Empress Theodora: Partner of Justinian. University of Texas Press. tud. 15. ISBN 978-0-292-70270-7. http://books.google.com/books?id=8T9TJwcs_20C&pg=PA15&lpg=PA15&dq=empress+Theodora+striptease+justinian#v=onepage&q=striptease&f=false.