Street, Gwlad yr Haf

Oddi ar Wicipedia
Street, Gwlad yr Haf
Eglwys y Drindod Sanctaidd, Street
Mathpentref, plwyf sifil Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolArdal Mendip
Daearyddiaeth
SirGwlad yr Haf
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau51.1235°N 2.7381°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE04008589 Edit this on Wikidata
Cod OSST483363 Edit this on Wikidata
Cod postBA16 Edit this on Wikidata
Map

Pentref a phlwyf sifil yng Ngwlad yr Haf, De-orllewin Lloegr, ydy Street. Yn ôl Cyfrifiad 2011 roedd gan y pentref boblogaeth o 11,805. Fe'i leolwyd ar ddiwedd Bryniau Polden, 3.2 km (2 filltir) i'r de-orllewin o Glastonbury ('Ynys Wydrin' mewn Hen Gymraeg).

Ceir tystiolaeth fod y Rhufeiniaid wedi setlo yma am gyfnod. Gerllaw, saif Abaty Glastonbury, a fu'n drwm ei ddylanwad ar yr ardal, tan diddymu'r mynachlogydd yn nheyrnasiad y brenin Harri VIII, brenin Lloegr. Daw'r enw o ffordd a ddefnyddiwyd i gludo Carreg Lias oddi yma yn y 12g er mwyn adfer yr abaty; cyn hynny gelwid y pentref yn Lantokay a Lega.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Wlad yr Haf. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.