Strawberry Hill, Llundain
Oddi ar Wicipedia
Ardal faestrefol o fewn Bwrdeistref Richmond upon Thames yn ne-orllewin Llundain yw Strawberry Hill. Lleolir o fewn tref Twickenham. Daw'r enw ar ol tŷ o'r enw "Strawberry Hill" a oedd yn gartref i Horace Walpole wedi iddo ei brynu yn 1748 a datblygu thema gothig i'r adeilad. Yn Strawberry Hill mae Coleg Prifysgol y Santes Fair, Twickenham, Coleg Gatholigiaeth Rufeinig hynaf y wlad. Defnyddir ei chaeau chwarae ar gyfer hyfforddi at Gemau Olympaidd yr Haf 2012.