Strathclyde

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Rhanbarth llywodraeth leol Strathclyde

Un o naw cyn-rhanbarth llywodraeth leol yn yr Alban yw Strathclyde (Gaeleg: Srath Chluaidh; Cymraeg: Ystrad Clud), a grewyd gan Deddf Llywodraeth Leol (yr Alban) 1973 a diddymwyd ym 1996 gan Ddeddf Llywodraeth Leol (yr Alban) 1994. Roedd rhanbarth Strathclyde wedi ei is-rannu yn 19 ardal.

Roedd rhanbarth Strathclyde yn gorchuddio ardal a oedd yn ymestyn o arfordir gorllewinol yr Alban i'r Ucheldiroedd yn y gogleddd, a'r Uwchdiroedd Deheuol i'r de. Roedd ganddo boblogaeth o dros 2.5 miliwn, y boblogaeth fwyaf o'r holl ranbarthau. Y llywodraeth rhanbarthol oedd yn gyfrifol am addysg, o'r ysgol feithrin i'r colegau; gwaith cymdeithasol; yr heddlu; tân; carffosiaeth; cynllunio strategol; ffyrdd a thrafnidiaeth, ac felly roedd yn cyflogi bron i 100,000 o weision cyhoeddus (bron i hanner ohonnynt ym maes addysg).

Lleolwyd y pencadlys gweinyddol yn y ddinas fwyaf, sef Glasgow, a domineiddwyd gwleidyddiaeth gan y Blaid Lafur yn bennaf. Y Parchedig Geoff Shaw, a fu farw ym 1978, oedd ymgynnullwr cyntaf y cyngor rhanbarthol. Ei arweiniaeth ef oedd yn gyfrifol yn bennaf am strategaeth arloesol y rhanbarth ar aml-amddifadiad - a barhaodd i fod yn ymrwymiad canolig trwy'r "Social Strategy for the Eighties" (1982) a "SS for the 90s".[1]

Defnyddir yr ardal a wasanaethwyd gan y rhanbarth hyd heddiw fel ardal llu heddlu Strathclyde Police, a'r gwasnaeth tân, gan Strathclyde Fire a Rescue Service, ac fel ardal drafnidiaeth gan y Strathclyde Partnership for Transport.

Ffiniau[golygu]

Ffurfwyd y rhanbarth gan uno sir Dinas Glasgow, a siroedd Ayr, Bute, Dunbarton, Lanark, a Renfrew, a rhannau o siroedd Argyll (heblaw ardal Ardnamurchan ac ardaloedd etholaethol Ballachulish a Kinlochleven), Stirling (burgh Kilsyth, ardal Western No. 3, ardal etholaethol Gorllewin Kilsyth, ac ardal pôl Dwyrain Kilsyth (Banton)).

Ers 1996, mae ardal y rhanbarth wedi cael ei rannu rhwng 12 ardal cyngor: Argyll a Bute, Dwyrain Swydd Ayr, Dwyrain Swydd Dunbarton, Dwyrain Swydd Renfrew, Dinas Glasgow, Inverclyde, Gogledd Swydd Ayr, Gogledd Swydd Lanark, Swydd Renfrew, De Swydd Ayr, De Swydd Lanark, a Gorllewin Swydd Dunbarton (a grewyd odan yr enw Dumbarton a Clydebank). Roedd yr holl ardaloedd cyngor newydd o fewn hen ffiniau'r rhanbarth.

Is-ranbarthau ac ardaloedd[golygu]

Heblaw Argyll a Bute a Dinas Glasgow, cafodd yr 19 ardal eu grŵpio i ffurfio is-ranbarthau ac enwyd pob un ar ôl sir hanesyddol. Roedd Argyll a Bute a Dinas Glasgow eu hunain yn is-ranbarthau, gyda Argyll a Bute wedi ei enwi ar ôl dau sir hanesyddol.

Is-ranbarth Ardal(oedd)[2] Cyfansoddiad
siroedd, burghs, ac ardaloedd eraill fel diffinwyd yn Neddf 1973
Argyll a Bute Argyll a Bute Yn swydd Argyll: burghs Campbeltown, Dunoon, Inveraray, Lochgilphead, Oban, a Tobermory; a rhanbarthau Cowal, Islay, Jura a Colonsay, Kintyre, Mid Argyll, Mull, Gogledd Lorn (heblaw am ranbarthau etholaethol Ballachulish a Kinlochleven), De Lorn, a Tiree a Coll

Yn swydd Bute: burgh Rothesay; ardal o Bute

Ayr Cumnock a Doon Valley Yn swydd Ayr: burgh Cumnock a Holmhead; a rhanbarthau Cumnock a Dalmellington (heblaw am y rhan hwnnw o blwyf Ayr o fewn rhanbarth pôl Coylton)
Cunninghame Yn swydd Ayr: burghs Ardrossan, Irvine, Kilwinning, Largs, Saltcoats, a Stevenston; rhanbarthau Irvine, Kilbirnie, a Gorllewin Kilbride, a'r rhannau o Irvine New Town o fewn rhanbarthau Ayr a Kilmarnock

Yn swydd Bute: burgh Millport; a rhanbarthau Arran, a Cumbrae

Kilmarnock a Loudoun Yn swydd Ayr: burghs Darvel, Galston, Kilmarnock, Newmilns a Greenholm, a Stewarton; ardal o Kilmarnock (heblaw am ran o Irvine New Town sydd o fewn y rhanbarth hwn)
Kyle a Carrick Yn swydd Ayr: burghs Ayr, Girvan, Maybole, Prestwick, a Troon; rhanbarthau Ayr (heblaw am ran o Irvine New Town o fewn y rhanbarth hwn), Girvan, a Maybole, y rhan hwnnw o blwyf Ayr o fewn ardal Dalmellington; a rhanbarth pôl Coylton
Dumbarton Bearsden a Milngavie Yn swydd Dunbarton: burghs Bearsden a Milngavie; a'r rhan hwnnw o ranbarth etholaethol Hardgate o fewn plwyf New Kilpatrick
Clydebank Yn swydd Dunbarton: burgh Clydebank; ardal o Old Kilpatrick (heblaw rhanbarthau etholaethol Bowling a Dunbarton a rhan o ranbarth etholaethol Hardgate o fewn plwyf New Kilpatrick)
Cumbernauld a Kilsyth Yn swydd Dunbarton: burgh Cumbernauld; rhanbarth etholaethol Croy a Dullatur a rhannau o ranbarthau etholaethol Twechar a Waterside yn Cumbernauld New Town

Yn swydd Stirling: burgh Kilsyth; rhanbarth etholaethol Kilsyth West; a rhanbarth pôl Kilsyth Dwyrain (Banton)

Dumbarton Yn swydd Dunbarton: burghs Dumbarton, Cove a Kilcreggan, a Helensburgh; rhanbarthau Helensburgh, a Vale of Leven; a rhanbarthau etholaethol Bowling a Dunbarton
Strathkelvin Yn swydd Dunbarton: burgh Kirkintilloch; a'r rhannau o ranbarthau etholaethol Twechar a Waterside tu allan i Cumbernauld New Town

Yn swydd Lanark: burgh Bishopbriggs; a rhanbarthau etholaethol Chryston a Stepps
Yn swydd Stirling: rhanbarth Western No. 3

Glasgow Dinas Glasgow Swydd Dinas Glasgow

Yn swydd Lanark: burgh Rutherglen; a rhannau o'r rhanbarth Eighth (rhanbarthau etholaethol Bankhead, Cambuslang Central, Cambuslang North, Hallside, a Rutherglen, a'r rhannau o rhanbarthau eholaethol De Cambuslang a Carmunnock tu allan i Ddwyrain Kilbride New Town) a rhanbarth Ninth (rhanbarthau etholaethol Baillieston, Garrowhill, Mount Vernon a Carmyle, a Springboig)

Lanark Clydesdale Yn swydd Lanark: burghs Biggar, a Lanark; a rhanbarthau First, Second, a Third
Dwyrain Kilbride Yn swydd Lanark: burgh Dwyrain Kilbride; yn rhanbarth Fourth, rhanbarth etholaethol Avondale ac, yn rhanbarth Eighth, y rhannau o ranbarthau etholaethol High Blantyre, De Cambuslang, a Carmunnock o fewn Dwyrain Kilbride New Town
Hamilton Yn swydd Lanark: burgh Hamilton; rhanbarth Fourth district (heblaw am ranbarth etholaethol Avondale), in the Sixth district, rhanbarthau etholaethol Bothwell a Uddingston South, a Uddingston Gogledd ac, yn rhanbarth Eighth, rhanbarthau etholaethol Blantyre, a Stonefield, a'r rhan o ranbarth etholaethol High Blantyre tu allan i Dwyrain Kilbride New Town.
Monklands Yn swydd Lanark: burghs Airdrie, a Coatbridge; rhanbarth Ninth district (heblaw rhanbarthau etholaethol Baillieston, Chryston, Garrowhill, Mount Vernon a Carmyle, Springboig, a Stepps) ac, yn rhanbarth Seventh, rhanbarth etholaethol Shottskirk
Motherwell Yn swydd Lanark: burgh Motherwell a Wishaw; rhanbarth Sixth (heblaw rhanbarthau etholaethol Bothwell ac Uddingston South, ac Uddingston North) a rhanbarth Seventh (heblaw rhanbarth etholaethol Shottskirk)
Renfrew Eastwood Yn swydd Renfrew: rhanbarth First
Renfrew Yn swydd Renfrew: burghs Barrhead, Johnstone, Paisley, a Renfrew; a'r rhanbarthau Second, Third, a Fourth
Inverclyde Yn swydd Renfrew: burghs Gourock, Greenock, Port Glasgow; a rhanbarth Fifth

Ardaloedd cyngor[golygu]

Ardal cyngor unedol Cyfansoddiad
yn nhermau ardaloedd a ddiffinwyd yn Neddf 1973
Argyll a Bute Argyll a Bute district a part of Dumbarton district (Helensburgh (7) regional electoral division a part of Vale of Leven (8) regional electoral division)
Dwyrain Swydd Ayr Kilmarnock a Loudoun a Cumnock a Doon Valley districts
Dwyrain Swydd Dunbarton Bearsden a Milngavie district a part of Strathkelvin district (Kirkintilloch (43), Strathkelvin Gogledd (44) a Bishopbriggs (45) regional electoral divisions a De Lenzie/Waterside district ward)
Dwyrain Swydd Renfrew Rhanbarth Eastwood, rhan o ardal etholaethol (Barrhead (79) o ranbarth Renfrew
Dinas Glasgow
(crewyd odan yr enw City of Glasgow, newidwyd i Glasgow City)
Rhanbarth Dinas Glasgow (heblaw am ranbarthau etholaethol Rutherglen/Fernhill (37) a Cambuslang/Halfway (38), Glasgow/Halfway a rhan o ranbarth etholaethol King's Park/Toryglen (35))
Inverclyde Rhanbarth Inverclyde
Gogledd Swydd Ayr Rhanbarth Cunninghame
Gogledd Swydd Lanark Rhanbarthau Cumbernauld a Kilsyth, Monklands, Motherwell a rhan o ranbarth Strathkelvin a rhanbarth etholaethol Chryston (46) (heblaw ward De Lenzie/Waterside)
Swydd Renfrew Rhanbarth Renfrew (heblaw rhanbarth etholaethol Barrhead (79))
De Swydd Ayr Rhanbarth Kyle a Carrick
De Swydd Lanark, Rhanbarthau Clydesdale, Dwyrain Kilbride, a Hamilton a rhanbarthau etholaethol Rutherglen/Fernhill (37) a Cambuslang/Halfway (38), Dinas Glasgow, Glasgow/Halfway a rhan o ranbarth etholaethol King's Park/Toryglen (35)
Gorllewin Swydd Dunbarton
(crewyd odan yr enw Dumbarton a Clydebank)
Clydebank a rhanbarth etholaethol Dumbarton (6), Dumbarton a rhan o ranbarth etholaethol Vale of Leven (8)

Enw[golygu]

Enwyd y rhanbarth ar ôl teyrnas Frythonaidd hynafol Ystrad Clud y Damnonii. Roedd y teyrnas yn fras yn gorchuddio pen gogleddol y rhanbarth, heblaw'r ardal a lywodraethir gan ardal cyngor Argyll a Bute ac Ynys Arran, sydd erbyn hyn yn ardal cyngor Gogledd Swydd Ayr, ardal cyngor Dumfries a Galloway a rhan o swydd Seisnig Cumbria.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. http://www.freewebs.com/publicadminreform/
  2. Dewiswyd rhai enwau gan y cynghorau eu hunain yn fuan wedi iddynt cael eu creu, felly mae'nt yn wahanol i'r rheiny a ddiffinwyd yn y Ddeddf Llywodraeth Leol ym 1973.

Coordinates: 55°44′N 5°02′W / 55.733°N 5.033°W / 55.733; -5.033