Sterling Price
| Sterling Price | |
|
11fed Llywodraethwr Missouri
|
|
| Cyfnod yn y swydd 1853 – 1857 |
|
| Rhagflaenydd | Austin Augustus King |
|---|---|
| Olynydd | Trusten Polk |
|
|
|
| Geni | 20 Medi, 1809 Swydd Prince Edward, Virginia |
| Marw | 29 Medi 1867 (58 oed) St. Louis, Missouri |
| Plaid wleidyddol | Ddemocrataidd |
| Priod | Martha Head |
| Alma mater | Coleg Hampden–Sydney |
Gwleidydd a chyfreithiwr Americanaidd a wasanaethodd fel Llywodraethwr Missouri o 1853 hyd 1857 oedd Sterling Price (20 Medi, 1809 – 29 Medi, 1867). Gwasanaethodd hefyd fel brigadier general ym Myddin yr Unol Daleithiau yn y Rhyfel Mexicanaidd-Americanaidd, ac fel major general ym myddin Gydffederal y Rhyfel Cartref America.
Cafodd ei eni yn Swydd Prince Edward, Virginia i deulu o dras Gymreig, ym 1809. Mynychodd Goleg Hampden–Sydney ble astudiodd y gyfraith o 1826 tan 1827. Priododd Martha Head a symudodd ei deulu i Fayette, Missouri ym 1831. Cafodd ei ethol i Gyngres yr Unol Daleithiau ym 1845 ond ymddiswyddodd ym 1846 i ymladd yn y Rhyfel Mexicanaidd-Americanaidd.
Ar ddiwedd y rhyfel, yn hytrach nag ildio, aeth â'i filwyr dros y ffin i Fecsico a chynnig eu gwasanaeth i'r Ymerawdwr Maximilian, ond doedd o ddim eu hangen. Fodd bynnag, cawsant fyw yno a bu farw Price yn dlawd a disylw yn 1867 mewn mynwent yn St. Louis.
Dolen allanol [golygu]
- (Saesneg) PRICE, Sterling (1809 - 1867) Biographical Directory of the United States Congress