Stephen Colbert
Oddi ar Wicipedia
Stephen Colbert yn Ninas Efrog Newydd, Tachwedd 2007
Mae Stephen Tyrone Colbert (/kolˈbeɹ/; ganed 13 Mai, 1964) yn ddychanwr gwleidyddol Americanaidd ac yn gyflwynwr rhaglenni teledu. Ef sy'n cyflwyno The Colbert Report ar Comedy Central, rhaglen newyddion ddychanol lle portreadir Colbert fel fersiwn cartŵn o wleidyddion ceidwadol.
Mae ef hefyd yn actor lleisiol, sydd wedi chwarae rhannau mewn ffilmiau fel The Love Guru a Monsters vs. Aliens.