Stephanie Parker

Oddi ar Wicipedia
Stephanie Parker
Ganwyd29 Mawrth 1987 Edit this on Wikidata
Brighton Edit this on Wikidata
Bu farw18 Ebrill 2009 Edit this on Wikidata
Pontypridd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethactor Edit this on Wikidata

Actores oedd Stephanie Parker (29 Mawrth 198718 Ebrill 2009), oedd yn fwyaf adnabyddus am chwarae rhan Stacey Weaver ar gyfres deledu BBC Wales, Belonging, ers oedd yn 15. Ymddangosodd hefyd yn nghyfres Casualty a dramau BBC Radio 4.

Ganwyd yn Brighton a symudodd i Gymru gyda'i rhieni i ardal Rhydyfelin pan oedd yn ei arddegau. Aeth i Ysgol Uwchradd Hawthorn ym Mhontypridd. Roedd hi'n byw yn Nhrefforest.[1]

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Darganfyddwyd ei chorff wedi ei chrogi ger Pontypridd am tua 6am ar 18 Ebrill 2009;[2] a credir ei fod yn achos o hunan-laddiad.[3] Roedd hi'n 22 mlwydd oed. Yn Rhagfyr 2009, clywodd y cwest fod Parker yn diodde o iselder, ers iddi ddechrau cael eu bwlio yn yr ysgol. Dywedodd y crwner fod hi'n bosib fod y weithred yn "alwad am gymorth" yn hytrach na ymdrech bwriadol i ladd ei hun. Cofnodwyd rheithfarn o farwolaeth trwy anffawd.[4]

Teledu[golygu | golygu cod]

  • Belonging
  • Casualty (2007)
  • Doctors (2007)
  • Doc Martin (2007)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Robin Turner. Welsh TV star Stephanie Parker found dead (en) , Wales Online, 20 Ebrill 2009. Cyrchwyd ar 27 Ionawr 2016.
  2. Belonging actress is found dead (en) , BBC News, 19 Ebrill 2009.
  3. Leigh Holmwood. Stephanie Parker, actor in Belonging, found hanged (en) , The Guardian, 20 Ebrill 2009.
  4. Actores wedi marw drwy anffawd (cy) , Newyddion BBC, 9 Rhagfyr 2009. Cyrchwyd ar 27 Ionawr 2016.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]