Stephanie Beacham

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Actores Saesnig ydy Stephanie Beacham (ganwyd 28 Chwefror 1947).

Bywgraffiad[golygu]

Bywyd Cynnar[golygu]

Ganwyd Beacham yn Barnet, Gogledd Llundain, Lloegr yn un o bedwar o blant. Roedd ei mam, Joan, yn wraig tŷ a'i thad yn weithredwr yswiriant ac yn rheolwr gyfarwyddwr Stâd Grosvenor. Ychydig amser ar ôl ei genedigaeth, dywedwyd ei bod yn gwbl fyddar yn ei chlust dde gan fod ei mam wedi dal brech ieir pan oedd yn feichiog. Mae'n medru clywed tua 75% o seiniau arferol yn ei chlust chwith. Ar ôl iddi adael Ysgol y Frenhines Elizabeth i Ferched, teithiodd Beacham i Ffrainc lle astudiodd meim gydag Etienne St Creux cyn iddi fynychu RADA. Ei nod gwreiddiol oedd dysgu symudiadau dawns i blant byddar. Dechreuodd ei gyrfa fel model ac yna cafodd rannau fel acotres mewn nifer o ffilmiau.

Bywyd Personol[golygu]

Priododd Beacham ei chyd-actor John McEnery rhwng 1973 a 1978. Cawsant ddau o blant, Phoebe a Chloe. Bellach mae gan Beacham ŵyr, Jude, sy'n ei galw'n "Glamma" yn hyrach na "Grandma". Dywedodd Beacham mai ei hŵyr oedd y rheswm dros iddi gymryd rhan mewn pantomeim.

Ffilmgraffiad[golygu]

  • The Queen's Traitor (1967)
  • UFO (1970)
  • Dracula A.D. 1972 (1972)
  • -- And Now the Screaming Starts! (1973)
  • Schizo (1976)
  • Inseminoid (1981)
  • Tenko (1981–1982)
  • Sorrell and Son (1984)
  • Connie (1985)
  • Dynasty (1985, 1988 - 1989)
  • The Colbys (1985 - 1987)
  • The Wolves Of Willougby Chase (1989)
  • Sister Kate (1989–1990)
  • Lucky Chances (1990)
  • Beverly Hills, 90210 (occasional - 1991–1998)
  • Star Trek: The Next Generation (1 episode - 1993)
  • Cluedo (1990)
  • seaQuest DSV (1993–1994)
  • No Bananas (1996)
  • Charmed (1 episode - 2000)
  • Relative Values (2000)
  • The Witches Hammer (2006)
  • Love and Other Disasters (2006)
  • Bad Girls (2003–2006)
  • New Tricks (TV series) (1 episode - 2006)
  • Little Birds (2009)


Baner LloegrEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.