Stephan Elliott
Oddi ar Wicipedia
Cyfarwyddwr ffilmiau a sgriptiwr Awstralaidd ydy Stephan Elliott (ganed 27 Awst 1964, yn Sydney, De Cymru Newydd, Awstralia), sydd wedi ennill nifer o wobrau.
Dechreuodd ei yrfa fel cyfarwyddwr cynorthwyol yn nhwf aruthrol y diwydiant ffilm yn Awstralia yn ystod y 1980au
Cyhyrchwyd ei ddwy ffilm lawn gyntaf, Frauds a The Adventures of Priscilla, Queen of the Desert, ynghyd a'i ffilmiau byrrach, llai adnabyddus gan gwmni cynhyrchu Rebel Penfold-Russell, Latent Image Productions.
Dewiswyd Frauds, The Adventures of Priscilla, Queen of the Desert a Welcome to Woop Woop i'w dangos yng Ngŵyl Ffilmiau Cannes, gyda "Priscilla" yn ennill y Prix du public yn ogystal â Gwobr yr Academi am y Gwisgoedd Gorau, ynghyd ag amryw o wobrau eraill.
Dolenni allanol [golygu]
- (Saesneg) Mynediad IMDb
- (Saesneg) Gwefan Answyddogol ar gyfer cefnogwyr
- (Saesneg) Gwefan swyddogol ar gyfer 'Priscilla' y sioe gerdd
- (Saesneg) Adolygiad Gwyl Ffilmiau Toronto o Easy Virtue
- (Saesneg) Cyfweliad The Times gyda Stephan Elliott