Stefan Banach
Oddi ar Wicipedia
Mathemategydd o Wlad Pwyl oedd Stefan Banach (1892 - 1945). Mae'n adnabyddus fel sylfeinydd Theorem pwynt arhosol Banach (1922).
Ganwyd Banach yn ninas Krakow yn 1892. Astudiodd yn Lvov lle daeth yn ddarlithydd mewn mathemateg yn 1919 ac yn athro erbyn 1927. Sefydlodd ysgol bwysig o fathemategwyr Pwylaidd. Ei lyfr pwysicaf efallai yw Théorie des opérations linéaires (1932). Bu farw yn Lvov yn 1945.