Spooks

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio
Spooks
Delwedd:300px-Spooks002.jpg
Genre Ysbïwyr
Serennu Peter Firth
Rupert Penry-Jones
Hugh Simon
Miranda Raison
Alex Lanipekun
Gwlad Y Deyrnas Unedig
Iaith/Ieithoedd Saesneg
Nifer y cyfresi 7
Nifer y Penodau 56
Cynhyrchiad
Amser rhedeg 60 munud
Darllediad
Sianel gwreiddiol BBC1
Cysylltiadau allanol
Gwefan swyddogol


Mae Spooks yn gyfres ddrama deledu Prydeinig sydd wedi ennill Gwobr BAFTA. Caiff y rhaglen ei chynhyrchu gan y cwmni annibynnol Kudos ar gyfer BBC1. Tarddia'r teitl o'r enw bob dydd a roddir ar ysbïwyr am fod y gyfres yn dilyn hynt a helynt grŵp o ysbïwyr MI5 yn Thames House wrth iddynt weithio. Yn yr Unol Daleithiau a Ffrainc darlledwyd y gyfres o dan yr enw MI-5. Yn wreiddiol, darlledwyd y gyfres yng Nghanada o dan yr enw MI5 ond mae bellach yn cael ei ddarlledu ar BBC Canada fel "Spooks". Crëwyd y gyres gan yr ysgrifennydd David Wolstencroft.

Yn rheolaidd, mae'r gyfres wedi denu actorion poblogaidd fel gwestai i'r gyfres. Mae'r perfformwyr hyn yn cynnwys Hugh Laurie, Tim McInnerny, Ian McDiarmid, Jimi Mistry, Andy Serkis, Andrew Tiernan, Anton Lesser, Alexander Siddig ac Anthony Stewart Head.


Cynnwys

[golygu] Y Cast

Mae'r prif gymeriadau sy'n ymddangos yn barhaus yn cynnwys:

[golygu] Y Prif Gymeriadau ar hyn o bryd

[golygu] Y Grid

  • Sir Harry Pearce (Peter Firth; 2002–) - Pennaeth yr Adran Gwrth-Derfysgaeth, MI5.
  • Adam Carter (Rupert Penry-Jones; 2004–) - Uwch Swyddog Achos, Adran D,
  • Ros Myers (Hermione Norris; 2006–) - Uwch Swyddog Achos
  • Jo Portman (Miranda Raison; 2005–?) - Îs-swyddog Achos, Adran D, statws ansicr
  • Ben Kaplan (Alex Lanipekun; 2007–) – Gweithiwr yn Adran D, rôl nas diffiniwyd.
  • Malcolm Wynn-Jones (Hugh Simon; 2002–) - Technegydd a Dehonglydd Data.
  • Connie James (Gemma Jones; 2007–) - Swydd Desg, Adran D.
  • Lucas North (Richard Armitage; 2008-) - Swyddogaeth anhysbys, Tebygol o fod yn Uwch Swyddog Achos, Adran D.

[golygu] Eraill

  • Nicholas Blake (Robert Glenister; 2006–) - Ysgrifennydd Cartref Prydain
  • Juliet Shaw (Anna Chancellor; 2005–) - Cyd-lynydd Diogelwch Cenedlaethol / Pennaeth Yalta, statws ansicr

[golygu] Cyn-brif gymeriadau

  • Oliver Mace (Tim McInnerny; 2004, 2006) - Cadeirydd y Gweithgor Gwybodaeth Gudd.
  • Bob Hogan (Matthew Marsh; 2007) - Cyn Uwch-gysylltydd y CIA â Phrydain
  • Dariush Bakhshi (Simon Abkarian; 2007) – Is-gennad Arbennig Iran
  • Tessa Phillips (Jenny Agutter; 2002–2003) - Uwch Swyddog Achos, Adran K. Gadawodd y Grid wedi i MI5 ddarganfod ei bod yn fradwr.
  • Tom Quinn (Matthew Macfadyen; 2002–2004) - Uwch Swyddog Achos, Adran D. Dadgomisiynnwyd am beryglu menter allweddol.
  • Zafar Younis (Raza Jaffrey; 2004–2007) - Îs-swyddog Achos, Adran D. Lladdwyd tra'n cael ei arteithio.
  • Fiona Carter (Olga Sosnovska; 2004–2005) - cafodd secondiad i MI5 o MI6. Saethwyd gan ei chyn-wr a bu farw ym mreichiau Adam.
  • Danny Hunter (David Oyelowo; 2002–2004) - Îs-swyddog Achos, Adran D. Lladdwyd gan derfysgwr.
  • Zoe Reynolds (Keeley Hawes; 2002–2004) - Îs-swyddog Achos, Adran D. Yn cuddio wedi iddi wneud camgymeriad mewn ymgyrch cudd.
  • Helen Flynn (Lisa Faulkner; 2002) - Îs-swyddog Achos. Saethwyd gan ddilynwr grŵp terfysgol.
  • Ruth Evershed (Nicola Walker; 2003–2006) - Dadansoddwraig a secondiwyd i MI5 o GCHQ. Ffugiodd ei marwolaeth ei hun.
  • Colin Wells (Rory MacGregor; 2002–2006) - Technegydd a Dadansoddwr data. Crogwyd gan MI6.
  • Sam Buxton (Shauna Macdonald; 2003–2005) - Swyddog Gweinyddol. Gadawodd y Grid.
  • Jed Kelley (Graeme Mearns; 2002) - Swyddog Gweinyddol. Ni welwyd ef yn gadael y gyfres ond awgrymwyd iddo symud i adran wahanol.
Offer personol