SpynjBob Pantsgwâr
SpynjBob Pantsgwâr (Saesneg: SpongeBob SquarePants) yw'r enw Cymraeg ar gyfres deledu animeiddiedig Americanaidd am y cymeriad cartŵn o'r un enw, a'r cwmni cyfryngau sy'n ei chynhyrchu. Mae'n un o "Nicktoons" y cwmni teledu Nickelodeon.
Erbyn heddiw, darlledir SpynjBob ledled y byd. Fe'i crëwyd gan y biolegydd morol ac animeiddiwr Stephen Hillenburg ac fe'i cynhyrchir gan ei gwmni cynhyrchu, United Plankton Pictures. Lleolir y gyfres yn y Cefnfor Tawel yn ninas Pant y Bicini (Saesneg: Bikini Bottom) a'i chyffiniau ar waelod lagŵn. Darlledwyd y bennod beilot yn yr Unol Daleithiau ar Nickelodeon ar 1 Mai 1999, gyda'r gyfres gyntaf swyddogol yn dilyn ar 17 Mehefin yn yr un flwyddyn. Cafwyd sawl cyfres erbyn hyn ynghyd â DVDau a dwy ffilm hir.
Cynnwys |
Fersiwn Cymraeg [golygu]
Dechreuodd y gyfres Gymraeg ar S4C ar 7 Medi 2011, ac mae ar gael drwy S4C Clic.
Cymeriadau yn Gymraeg [golygu]
| Cymraeg | Saesneg gwreiddiol |
|---|---|
| SpynjBob Pantsgwâr | SpongeBob SquarePants |
| Padrig | Patrick |
| Sulwyn Surbwch | Squidward Tentacles |
| Mr Cranci | Mr Krabs |
| Al-gi | Plankton |
| Cenwyn | Larry Lobster |
| Gwilym Gwellnaphawb | Squillium Fancyson |
| Y Crancdy | The Krusty Krab |