Spike Milligan

Oddi ar Wicipedia
Spike Milligan
GanwydTerence Alan Milligan Edit this on Wikidata
16 Ebrill 1918 Edit this on Wikidata
Ahmednagar Edit this on Wikidata
Bu farw27 Chwefror 2002 Edit this on Wikidata
Rye Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGweriniaeth Iwerddon, y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethsgriptiwr, ysgrifennwr, digrifwr, newyddiadurwr, actor llwyfan, actor ffilm, bardd, actor, cerddor, actor teledu, dramodydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auKBE, Chortle Awards Edit this on Wikidata

Digrifwyr, actor, bardd ac awdur Prydeinig-Wyddelig oedd Terence Alan Patrick Seán "Spike" Milligan KBE (16 Ebrill 191827 Chwefror 2002).

Ganwyd Milligan yn India, ei dad yn Wyddel a'i fam yn Saesnes. Treuliodd ei blentyndod yno, cyn dychwelyd i fyw a gweithio am rhan fwyaf o'i fywyd yn y Deyrnas Gyfunol. Nid oedd yn hoff o'i enw cyntaf a cychwynodd alw ei hun yn "Spike" ar ôl clywed band ar Radio Luxembourg o'r enw [Spike Jones and his City Slickers.[1][1][2][3]

Roedd Milligan yn un o gyd-greawdwyr, prif ysgrifenwyr a phrif aelod cast y rhaglen radio Brydeinig arloesol a dylanwadol The Goon Show, gan berfformio nifer o rannau yn cynnwys y cymeriad poblogaidd Eccles a Minnie Bannister. Ef oedd aelod hynaf o'r Goons, a'r hiraf i oroesi. Aeth Milligan o lwyddiant y Goon Show i fyd teledu gyda chyfres Q5, sioe sgets swreal a gydnabyddwyd fel dylanwad pwysig ar aelodau Monty Python's Flying Circus.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Cofiant[golygu | golygu cod]

  • Adolf Hitler: My Part in His Downfall (1971)
  • "Rommel?" "Gunner Who?": A Confrontation in the Desert (1974)
  • Monty: His Part in My Victory (1976)
  • Mussolini: His Part in My Downfall (1978)

Drama[golygu | golygu cod]

  • The Bed-Sitting Room (1962)

Nofelau[golygu | golygu cod]

  • Puckoon (1963)
  • The Looney: An Irish Fantasy (1987)

Barddoniaeth[golygu | golygu cod]

  • Silly Verse for Kids (1959)

Radio[golygu | golygu cod]

  • The Goon Show (1951-60)
  • The Idiot Weekly (1958-62)
  • The Omar Khayyam Show (1963–1964)

Teledu[golygu | golygu cod]

  • The Idiot Weekly, Price 2d (1956)
  • A Show Called Fred (1956)
  • The World of Beachcomber (1968)
  • Curry & Chips (1969)
  • Q5 (1969)
  • Q6 (1975)
  • Q7 (1977)
  • Q8 (1978)
  • Q9 (1980)


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "Spike Milligan (obituary)". Scotsman.com (yn Saesneg). Edinburgh. 28 Chwefror 2002. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-10-21. Cyrchwyd 25 Mawrth 2013.
  2. "Spike becomes an Irish Citizen". The Life and Legacy of Spike Milligan (website). Hatchling Production Pty Ltd (Australia). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 Tachwedd 2015. Cyrchwyd 23 Tachwedd 2015. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  3. "Spike Milligan dies at 83". The Guardian. 27 Chwefror 2002language=en. Cyrchwyd 23 Tachwedd 2015. Check date values in: |date= (help)
Baner LloegrEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.