Speculum duorum

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Speculum Duorum)
Speculum duorum
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol, gwaith ysgrifenedig Edit this on Wikidata
AwdurGerallt Gymro Edit this on Wikidata
IaithLladin Edit this on Wikidata
Geralt Gymro

Llythyr hir athronyddol yw'r Speculum duorum (Lladin: "Drych deuddyn"), a ysgrifennwyd yn Lladin gan Gerallt Gymro ac a adawyd yn anorffenedig ganddo yn y flwyddyn 1216.

Mae'r Speculum ymhlith y mwyaf personol a dadlennol o weithiau'r awdur toreithiog. Ysgrifennodd Gerallt y llyfr yn hwyr yn ei oes. Mae'n llawn o gywiriadau a lacunae sy'n dangos ei fod yn bwriadu ehangu a chywiro'r gwaith cyn ei gyhoeddi, ond ymddengys na chafodd gyfle i wneud hynny.

Llythyr mewn ymateb i honiadau personol ac enllibus braidd yn ei erbyn gan ei nai Hubert Walter yw'r Speculum duorum. Cafodd Hubert ei ddyrchafu i archddeaconiaeth Aberhonddu ym 1203, diolch yn bennaf i ymyrraeth a dylanwad ei ewythr, Gerallt.

Dechreua Gerallt drwy amddiffyn ei hun rhag y cyhuddiadau yn ei erbyn gan roi nifer o fanylion am hanes esgobaeth Tyddewi yn y broses. Yna mae'r llythyr yn ehangu ac yn troi'n draethawd amlochrog ar natur dyn sy'n cynnwys nifer o ddyfyniadau o'r Ysgrythurau, Tadau'r Eglwys a sawl awdur arall, o'r Oesoedd Canol a'r Henfyd. Ond manylion mwy diddorol o safbwynt efrydwyr hanes Cymru yw'r cyfeiriadau a'r disgrifiadau niferus sy'n ymwneud â Chymru oes Gerallt, e.e. disgrifiadau manwl o wisg Cymry'r cyfnod sy'n dangos eu bod yn arfer gwisgo mentyll amryliw gyda phatrymau tebyg i'r tartan.

Yn fwy felly nag yn unrhyw un o'i lyfrau eraill, cawn gipolwg ar y dyn ei hun sy'n datgelu personoliaeth gymhleth a meddwl bywiog gŵr balch ond dynol oedd yn meddu ar ddysg eang a dwfn.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Giraldus Cambrensis: Yves Lefèvre a R. B. C. Huygens (gol.), Speculum duorum or a Mirror of two men, cyfieithiwyd gan Brian Dawson (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1974). Y testun Lladin gyda chyfieithiad Saesneg cyfochrog.