Southall
Oddi ar Wicipedia
Cyfesurynnau: 51°30′44″N 0°22′40″W / 51.5121°N 0.3779°W
| Southall | |
|
|
|
| Rhanbarth | |
|---|---|
| Gwlad | Lloegr |
| Gwladwriaeth sofran | Y Deyrnas Unedig |
| Tref bost | SOUTHALL |
| Cod deialu | 020 |
| Yr Heddlu | |
| Tân | |
| Ambiwlans | |
| Senedd yr Undeb Ewropeaidd | Llundain |
| Senedd y DU | Ealing Southall |
| Rhestr llefydd: y DU • Lloegr • | |
Ardal yng ngorllewin Llundain yw Southall, wedi ei lleoli ym Mwrdeistref Ealing. Lleolir 10.7 milltir (17.2 cilometr) i'r de-orllewin o Charing Cross. Mae Caerdydd 194 km i ffwrdd o Southall ac mae Llundain yn 19 km. Y ddinas agosaf ydy Dinas San Steffan sy'n 17 km i ffwrdd.
Mae Southall yn un o gymunedau mwyaf Prydain o bobl o India a Phacistan. Mae ganddi ddeg gurdwara, yn cynnwys y Gurdwara Sri Guru Singh Sabha, un o demlau Sikh mwyaf y byd y tu allan i India. Yn ogystal, ceir dwy deml ("Mandir") Hindw a thair mosg.
Yn yr 1920au a'r 1930au daeth Southall yn gartref i nifer o ymfudwyr o Gymru a ddaeth i chwilio am waith. Roedd acenion Cymraeg i'w clywed yn gyson yn yr ardal.