Soissons
Oddi ar Wicipedia
Dinas a chymuned yn Ffrainc yw Soissons, sy'n un o sous-préfectures département Aisne. Fe'i lleolir yng ngogledd Ffrainc i'r gogledd-ddwyrain o Baris. Mae'n ganolfan i'r arrondissement o'r un enw hefyd. Gorwedd ar lan Afon Aisne.
Mae'n sedd esgobaeth Soissons. Dyddia'r eglwys gadeiriol o'r 13eg ganrif. Dinistrwyd rhan helaeth Soissons yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.