Sofia Coppola
Oddi ar Wicipedia
Cyfarwyddwraig ffilmiau, actores, cynhyrchydd a sgriptiwraig Americanaidd ydy Sofia Carmina Coppola (ganwyd 14 Mai 1971), sydd wedi ennill Gwobr yr Academi am ei gwaith. Hi yw'r trydydd cyfarwyddwraig, a'r unig Americanes i gael ei henwebu am Wobr yr Academi am Gyfarwyddo. Y ddwy arall oedd Lina Wertmüller a Jane Campion.