Socan Eira

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Socan eira)
Socan Eira
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Passeriformes
Teulu: Turdidae
Genws: Turdus
Rhywogaeth: T. pilaris
Enw deuenwol
Turdus pilaris
Linnaeus, 1758

Mae'r Socan Eira (Turdus pilaris) yn aelod o deulu'r Turdidae. Mae'n aderyn cyffredin ac adnabyddus, yn nythu yng ngogledd Ewrop a gogledd Asia.

Mae'r Socan Eira yn aderyn mudol sy'n symud tua'r de a thua'r gorllewin yn y gaeaf. Adeiledir y nyth mewn coed gweddol fawr, ac mae nifer o barau yn aml yn nythu yn agos at ei gilydd, efallai fel amddiffyniad yn erbyn adar eraill megis teulu'r brain. Yn y gaeaf maent yn ymgasglu'n heidiau, yn aml gyda'r Coch dan Adain. Eu prif fwyd yw pryfed ac aeron.

Gellir ei adnabod o'r cefn brown gyda darn mawr llwyd ger y gynffon, llwyd ar gefn y pen a smotiau ar y frest a'r bol, sydd a gwawr goch neu oren. Nid yw'r rhywogaeth yma yn nythu yng Nghymru, er fod ychydig o barau yn nythu yn Alban, ond mae'n aderyn cyffredin yma yn y gaeaf.