Smithers, British Columbia
Oddi ar Wicipedia
Tref yng ngogledd British Columbia yng Nghanada yw Smithers. Saif ar lan afon Bulkley ac amgylchynir gan fynyddoedd. Roedd y boblogaeth yn 2006 yn 5,217.
Hanes[golygu]
Sefydlwyd Smithers ym 1913 fel y pencadlys rhanbarthol ar gyfer y rheilffordd Grand Trunk Pacific. Enwyd y pentref newydd ar ôl Alfred Waldron Smithers.
Enwogion[golygu]
- Joe Watson (g. 1943) a Jimmy Watson (g. 1952), chwaraewyr hoci iâ
- Gina Holden (g. 1975), actores