Slim Amamou

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Slim Amamou.jpg

Blogwr ac actifydd rhyngrwyd o Tunisia yw Slim Amamou. Roedd yn un o sefydlwyr y Partie Pirate Tunisien (Plaid Beirat Tunisia), sy'n aelod o'r Pleidiau Peirat Rhyngwladol. Ar hyn o bryd mae'n Weinidog Ieuenctid a Chwaraeon yn llywodraeth dros dro Tunisia.

Yn blogio wrth yr enw "Slim 404" (cyfeiriad slei at "Ammar 404"), mae'n un o flogwyr mwyaf adnabyddus Tunisia, yn enwedig fel golygydd ReadWriteWeb, a chafodd sylw ehangach pan gafodd ei arestio gan lywodraeth Zine el-Abidine Ben Ali ar 6 Ionawr 2011 yn ystod y 'Chwyldro Jasmin'.[1]. Daeth yr heddlu cudd i'w gartref yn Tunis i'w arestio am 1330 ar y 6ed o Ionawr. Roedd eisoes wedi rhybuddio ei ffrindiau eu bod yn gwylio ei gartref. Trwy ddilyn ei alwad ffôn olaf, darganfuwyd iddo wneud hynny yn adeilad y Ministère de l'intérieur ar Avenue Habib Bourguiba, Tunis.[2] Cafodd ei ddal yno am rai dyddiau a bu ymgyrch rhyngwladol gan ei gyfeillion y tu allan i Tunisia i sicrhau ei ryddid.

Ar ôl i Zine el-Abidine Ben Ali, cyn arlywydd Tunisia, ffoi o'r wlad rhoddwyd lle i Slim Amamou yn y 'llywodraeth undeb cenedlaethol' a ffurfwyd gan Mohamed Ghannouchi.[3]. Dyma'r tro cyntaf erioed i aelod o un o'r pleidiau peirat gael sedd mewn llywodraeth.

Cyfeiriadau[golygu]

Dolenni allanol[golygu]