Skylab

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Skylab

Skylab oedd yr orsaf ofod gyntaf a lansiwyd gan Unol Daleithiau America. Cafodd ei lansio ar roced Saturn V ar 14 Mai, 1973 o Kennedy Space Center yn Florida, a dinistriwyd y strwythur ar 11 Gorffennaf 1979 pan syrthiodd o orbit.

Hanes [golygu]

Cafodd Skylab ei greu fel rhan o'r Apollo Applications Progam, swyddfa NASA a sefydlwyd yn 1965 gyda'r bwriad o lunio rhaglenni gofod yn defnyddio technoleg Apollo a oedd yn cael ei ddatblygu ar y pryd. Corff yr orsaf oedd yr adran olaf o'r roced Sadwrn V a addaswyd i gynnwys sustemau bywyd ac offerynnau gwyddonol ar gyfer criw o dri gofodwr. Ar y pryd, Skylab oedd yr orsaf ofod fwyaf i gael ei lansio.

Pan gafodd ei lawnsio, achosodd niwed i'r orsaf. Daeth un o'i phaneli heulol [solar panels] i ffwrdd (gweler y llun, dde), yn ogystal â tharian - hebddo, cododd y gwres mewnol yn yr orsaf i lefelau peryglus. Er mwyn achub yr orsaf, hyfforddwyd y criw cyntaf i drwsio'r orsaf. Roedd eu perwyl yn beryglus, yn cynnwys nifer o dechnegau arloesol i adeiladu tarian newydd. Roedd y trwsiadau yn llwyddiannus.

Skylab a'i griwiau [golygu]

Ymwelodd 3 chriw â Skylab rhwng 1973 a 1974. Treuliodd y criw olaf tua 84 o ddyddiau ar yr orsaf - record ar y pryd. Cafodd nifer o arbrofion gwyddonol eu cwblhau, gan gynnwys mesuriadau gyda thelesgôb yr orsaf.

Gweler hefyd [golygu]