Sjømannskirken

Oddi ar Wicipedia
Yr Eglwys Norwyaidd, Caerdydd, un o eglwysi cynharaf y gymdeithas.

Cymdeithas grefyddol yw'r Sjømannskirken (Norwyeg am Eglwysi'r Morwyr) neu Eglwys Norwy Dramor, sy'n gwasanaethu pobl o Norwy a gweddill Sgandinafia sy'n teithio neu'n byw tramor. Mae'n rhan o Eglwys Norwy. Wedi'i sefydlu yn 1864, amcan y Sjømannsmisjonen oedd sicrhau addysg foesol a chrefyddol morwyr o Sgandinafia a hefyd rhoi cyfle iddynt gwrdd â'i gyd-Sgandinafiaid i sgwrsio a chael cyfle i ymlacio. Sefydlwyd un o'r eglwysi cyntaf ym Mae Caerdydd yn 1868, a adnabyddir fel yr Eglwys Norwyaidd, Caerdydd.

Bob blwyddyn mae'r Sjømannskirken yn gwasanaethu tua 700,000 o Norwyaid trwy dros 30 o eglwsi ac 16 o wasanaethau symudol mewn 30 o wledydd ar draws y byd. Lleolir ei bencadlys yn Bergen, Norwy. Mae'n sefydliad elusennol a gynhelir gan Eglwys Norwy gyda chymorth ariannol ac ymarferol gan llywodraeth Norwy.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Ceir dwy eglwys hanesyddol yng Nghymru:

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]