Siytni

Oddi ar Wicipedia
Siytni
Siytnis o Bangalore
Enghraifft o'r canlynoltype of food or dish Edit this on Wikidata
MathCyfwyd, Saws Edit this on Wikidata
GwladIndia Edit this on Wikidata
Yn cynnwyssodiwm clorid Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cyfwyd o goginiaeth Indiaidd ac goginiaeth Pacistan yw siytni[1] (lluosog: siytnis)[2] neu catwad[1] sydd yn bicl o ffrwythau a llysiau wedi'i gadw gyda finegr, halen, siwgr, a sbeisiau. Gan amlaf mae ganddo flas melys a sur.[3]

Daeth y chatni o India i'r gegin Brydeinig yn ystod dyddiau'r Raj, ac roeddynt yn sbeislyd a sur. Heddiw mae'r mwyafrif o siytnis a wneir ym Mhrydain yn felys a mwyn, ac wedi eu mudferwi am amser hir i greu ansawdd meddal sy'n toddi. Yn aml caiff eu haeddfedu am o leiaf mis i alluogi'r blasau i gymysgu.[3]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Geiriadur yr Academi, s.v. chutney
  2. Cronfa Genedlaethol o Dermau, [chutney].
  3. 3.0 3.1 Good Housekeeping Food Encyclopedia (Llundain, Collins & Brown, 2009), t. 401.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]