Xinjiang
Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Sinkiang)
Rhanbarth hunanlywodraethol o fewn Gweriniaeth Pobl Tsieina yw Xinjiang, hefyd Sinkiang. Saif yng ngogledd-orllewin y wlad. Mae gan Xinjiang arwynebedd o 1,650,257 km², a'r brifddinas yw Ürümqi.
Mae'r enw "Xinjiang" mewn Tsieineeg Mandarin yn golygu "ffîn newydd". Daeth dan reolaeth Tsieina yn y 3edd ganrif CC. Yr Uighur yw'r trigolion brodorol, ond yn y blynyddoedd diwethaf mae nifer gynyddol o Tsineaid Han wedi mewnfudo i Xinjiang, ac mae hyn wedi creu trafferthion ethnig.
Xinjiang yw'r fwyaf o ranbarthau gwleidyddol Tsieina o ran arwynebedd. Mae'n cynnwys dwy fasn, wedi eu gwahanu gan fynyddoedd y Tien Shan.
| Israniadau gweinyddol Gweriniaeth Pobl Tsieina | |
|---|---|
| Taleithiau | Anhui • Fujian • Gansu • Guangdong • Guizhou • Hainan • Hebei • Heilongjiang • Henan • Hubei • Hunan • Jiangsu • Jiangxi • Jilin • Liaoning • Qinghai • Shaanxi • Shandong • Shanxi • Sichuan • Yunnan • Zhejiang |
| Taleithiau dinesig | Beijing • Chongqing • Shanghai • Tianjin |
| Rhanbarthau ymreolaethol | Guangxi • Mongolia Fewnol • Ningxia • Tibet • Xinjiang |
| Rhanbarthau Gweinyddol Arbennig | Hong Kong • Macau |