Sinigrin

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Fformiwla sgerbwd sinigrin
Yr anion mewn sinigrin

Glwcosinolad (neu glucosinolate) ydy Sinigrin, sy'n perthyn i deulu'r glwcosad a ganfyddir mewn rhai planhigion megis ysgewyll, brocoli a'r mwstad du (y Brassica nigra).

Pan fo planhigion tebyg yn cael eu gwasgu neu eu niweidio'n ddrwg, mae'r ensym 'myriosinase' yn dadfeilio sinigrin i fod yn olew mwstad (allyl isothiocyanate) sy'n gyfrifol am yr ogla a'r blas erchyll sydd ar fwstad a rhuddugl môr ('horse-radish').

Mae hadau'r mwstad gwyn (sef y Sinapis alba) ac yn cynnwys sinalbin yn hytrach na sinigrin.

Enw cemegol sinigrin yw 'llylglucosinolate' neu '2-propenylglucosinlate'. Y rhif-cas (neu cas number) yw 3952-98-5.

Dengys ymchwil gan Norwich Research Park (NRP), yn nwyrain Lloegr, y gall sinigrin goncro celloedd cansar (Yr apoptosis). O'i fwyta'n rheolaidd, yr awgrym cryf yw y gall sinigrin atal cansar rhag datblygu.

Gweler hefyd[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

Dolennau Allanol[golygu]

  • Erthygl Saesneg gan yr Institute of Food Research o'r enw 'Why your best friend could be a Brassica' [[1]]