Siglen Felen
| Siglen Felen | |
|---|---|
| Ceiliog M. f. flava | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Passeriformes |
| Teulu: | Motacillidae |
| Genws: | Motacilla |
| Rhywogaeth: | M. flava |
| Enw deuenwol | |
| Motacilla flava Linnaeus, 1758 |
|
Mae'r Siglen Felen (Motacilla flava) yn aelod o deulu'r Motacillidae, sy'n cynnwys y corhedyddion yn gystal a'r siglennod. Mae'n aderyn cyffredin trwy'r rhan fwyaf o Ewrop a gogledd a chanol Asia, ynghyd ag Alaska.
Yn y rhannau lle mae'r gaeafau'n oer mae'r Siglen Felen yn aderyn mudol, sy'n mudo o Affrica a de Asia i aeafu. Yng ngorllewin Ewrop nid yw'n symud ymhell. Mae'n aderyn o 15 - 16 cm o hyd, gyda chynffon sy'n fyrrach na'r siglennod eraill a geir yn Ewrop, er enghraifft y Siglen Lwyd. Ceir cryn amrywiaeth yn yr is-rywogaethau, yn enwedig yn lliw y pen, ond yn gyffredionol mae'r aderyn yn wyrdd-frown ar y cefn ac yn felyn ar y bol.
Is-rywogaethau [golygu]
- M. f. flava - de Llychlyn hyd Ffrainc a mynyddoedd canolbarth Ewrop hyd fynyddoedd Ural
- M. f. flavissima - Prydain ac arfordir gogleddol Ffrainc
- M. f. thunbergi - canolbarth a gogledd Llychlyn hyd ogledd-orllewin Siberia
- M. f. iberiae - Penrhyn Iberia, de-ddwyrain Ffrainc, y Maghreb o Tunisia hyd Banc d'Arguin.
- M. f. cinereocapilla - Yr Eidal, Slovenia.
- M. f. pygmaea - Yr Aifft ger rhannau isaf afon Nîl
- M. f. feldegg - Y Balcanau hyd Fôr Caspia, Twrci, Iran ac Afghanistan
- M. f. lutea - rhan isaf dyffryn afon Volga hyd afon Irtysh a Llyn Zaysan. *M. f. beema - i'r gogledd o lutea ac i'r dwyrain hyd Ladakh.
- M. f. melanogrisea - delta afon Volga, ardal Môr hyd ogledd Afghanistan
- M. f. plexa - Siberia rhwng afon Khatanga ac afon Kolyma.
- M. f. tschutschensis - o gwmpas Culfor Bering hyd ogledd-orllewin Canada
- M. f. angarensis - de Siberia hyd ogledd Mongolia.
- M. f. leucocephala - gogledd-orllewin Mongolia a rhannau cyfaos a Tseina a Rwsia
- M. f. taivana - rhwng plexa a tschutschensis hyd ogledd Hokkaidō.
- M. f. macronyx - de-ddwyrain Transbaikalia hyd Manchuria.
- M. f. simillima - Kamchatka ac ynysoedd Môr Bering
Ar un adeg roedd y M. f. flavissima yn aderyn gweddol gyffredin yng Nghymru, yn enwedig yn y dwyrain, ond bellach ychydig sy'n nythu yma. Gwelir nifer o'r is-rywogaethau eraill o dro i dro yn ystod y tymor mudo, yn enwedig M. f. flava (Siglen Benlas).