Sierra Madre Oriental
Oddi ar Wicipedia
- Erthygl am y gadwyn ym Mexico yw hon. Gweler hefyd Sierra Madre (gwahaniaethu).
Cadwyn hir o fynyddoedd yn nwyrain Mexico yw'r Sierra Madre Oriental neu'r Sierra Madre Dwyreiniol.[1] Mae'n ymestyn am 1000 km o Coahuila i gyfeiriad y de trwy Nuevo León, de-orllewin Tamaulipas, San Luis Potosí, Querétaro, a Hidalgo i ogledd Puebla, lle mae'n ymuno a'r Eje Volcánico Transversal yng nghanolbarth Mexico.
Y pwynt uchaf yw Cerro Potosí, 3713 medr. Copa uchaf arall yn y gadwyn yw El Coahuilón, tua 3460 medr.
Gorwedd Gwastadedd Arfordirol Gwlff Mexico i'r dwyrain o'r gadwyn, rhyngddi a Gwlff Mexico. Mae Llwyfandir Mexico, sy'n gorwedd ar gyfartaledd 1,100 m i fyny, yn gorwedd rhwng y Sierra Madre Oriental a'r Sierra Madre Occidental i'r gorllewin.
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Jones, Gareth (gol.). Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999), t. 70.