Sibling
Oddi ar Wicipedia
Two Sisters gan William-Adolphe Bouguereau.
Cyfeiria sibling at frawd neu chwaer neu at berson sydd yn rhannu o leiaf un rhiant â pherson arall. Yn y mwyafrif o gymdeithasau ledled y byd, mae siblingiaid yn cael eu magu gyda'i gilydd ac yn treulio cryn dipyn o'u plentyndod gyda'i gilydd, yn chwarae ac yn cael hwyl. Gellir cysylltu'r agosatrwydd genetig a chorfforol hwn â datblygiadau emosiynnol dwys, megis cariad neu gasineb. Yn aml, mae'r berthynas rhwng siblingiaid yn gymhleth a gellir dylanwadu arno gan ffactorau fel triniaeth y rhieni o'r plant, trefn genedigaeth, personoliaeth a phobl a phrofiadau y tu hwnt i'r teulu.