Y Tywysog Siarl, Tywysog Cymru
Mab y Frenhines Elisabeth II, brenhines y Deyrnas Unedig yw'r Tywysog Siarl, Tywysog Cymru (Charles Philip Arthur George Mountbatten-Windsor) (ganwyd 14 Tachwedd, 1948).
Cafodd ei eni ym Mhalas Buckingham, gyda'r teitl Y Tywysog Siarl o Gaeredin.
Gelwir ef yng Nghymru yn aml yn Carlo, ar ôl cân enwog Dafydd Iwan o'r un enw, a oedd yn boblogaidd iawn yng Nghymru adeg ei arwisgo yn 1969.
Daeth ei arwisgo yn fater gwleidyddol a dadleuol iawn. Roedd twf Plaid Cymru a Chymdeithas yr Iaith yn ofid i'r Blaid Lafur a gwelodd George Thomas, Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd, gyfle i wrthweithio'r tyfiant hwn wrth drefnu arwisgo'r tywysog yng Nghaernarfon yn 1969. Roedd y genhedlaeth ifanc o genedlaetholwyr yn gweld hyn yn sarhâd ar Gymru ac ar yr iaith.
Bu George Thomas yn ddigon cyfrwys i gael y tywysog yn fyfyriwr yng ngholeg Aberystwyth am dri mis i ddysgu'r Gymraeg. Ond pan ymwelodd y tywysog ag Eisteddfod yr Urdd a gwneud ei araith yn Gymraeg protestiodd nifer o'r bobl ifanc a cherdded allan. Cynhaliwyd rali enfawr yn erbyn yr arwisgo yng Nghilmeri.
Cynnwys |
Gwragedd [golygu]
- Diana, Tywysoges Cymru (1961 - 1997)
- Camilla, Duges Cernyw (1947 - )
Plant [golygu]
- Y Tywysog William (ganwyd 21 Mehefin, 1982)
- Y Tywysog Harri (ganwyd 15 Medi, 1984)
Gweler hefyd [golygu]
Dolen allonal [golygu]
| Rhagflaenydd: Y Tywysog Edward (hyd 1936) |
Tywysog Cymru 1958 – presennol |
Olynydd: deiliad |