Sian Owen (awdur)

Oddi ar Wicipedia
Sian Owen
Ganwyd8 Ebrill 1965 Edit this on Wikidata
Llanuwchllyn Edit this on Wikidata
Bu farw3 Hydref 2013 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr, cyfieithydd, golygydd, bardd Edit this on Wikidata

Cyfieithydd, golygydd, ac awdur Cymreig oedd Sian Owen (8 Ebrill 19653 Hydref 2013).[1][2]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganed Sian Owen yn Llanuwchllyn a magwyd hi yn Ynys Môn. Mynychodd Ysgol Uwchradd Bodedern cyn astudio ffiseg ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth ac enillodd PhD mewn ysgrifennu creadigol yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor. Bu'n gweithio ar ei liwt ei hun fel cyfieithydd, awdur a golygydd. Bu hefyd yn cynhyrchu rhaglenni ar gyfer BBC Radio Cymru a golygu gwerslyfrau gwyddonol CBAC.[1][2]

Enillodd Gystadleuaeth Farddoniaeth Ryngwladol Féile Filíochta yn 2007.[2]

Ynys Môn oedd lleoliad ei nofel gyntaf Mân Esgyrn a ddaeth yn ail agos yng nghystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Meirion a'r Cyffiniau 2009. Cyrhaeddodd hefyd restr hir Llyfr y Flwyddyn yn 2010.

Sian oedd y ferch gyntaf erioed i gael ei chodi'n Dderwydd Gweinyddol Gorsedd Eisteddfod Môn. Enillodd Gadair, Coron a Medal Ryddiaith Eisteddfod Môn.[3] a bu'n aelod o dîm Talwrn y Beirdd Bro Alaw.[2]

Roedd ganddi dri o blant a bu'n byw yn Marian-glas, Ynys Môn.[4] Bu farw o ganser yn Hydref 2013.[5]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1  BYWGRAFFIADAU AWDUR > Sian Owen. Gomer. Adalwyd ar 16 Mehefin 2011.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3  Rhestr Awduron Cymru > OWEN, SIAN. Llenyddiaeth Cymru. Adalwyd ar 16 Mehefin 2011.
  3.  Sian Owen yn dderwydd gweinyddol Eisteddfod Môn. BBC Newyddion (7 Mai 2011).
  4.  Cymru Cylchgrawn > Awduron > Sian Owen - awdur Mân Esgyrn. BBC. Adalwyd ar 16 Mehefin 2011.
  5. Marw Sian Owen, Marianglas , Golwg360, 3 Hydref 2013. Cyrchwyd ar 23 Chwefror 2016.