Siaco

Oddi ar Wicipedia
Siaco Llynges Ffrainc, tua 1829.

Het silindrig â phig yw siaco (lluosog: siacos)[1] (o'r Hwngareg: csákós süveg, sef "cap â phig") neu cap pluog (ll: capiau pluog).[1] Fe'i arddunir gyda phlu, pluen fer neu pompon, a bathodyn cap. Ers i hwsariaid Hwngaraidd y 18g ei wisgo, mae'r siaco wedi ffurfio rhan o wisgoedd milwrol nifer o wledydd yn y ddwy ganrif ddiwethaf.

Fe'i wisgir yn y Fyddin Brydeinig rhwng 1800 a 1878.[2] Dyluniodd Albert, y Tywysog Cydweddog het silindrig â phigau ar y blaen a'r cefn a elwir yn siaco Albert. Gwisgodd troedfilwyr, y Magnelau Brenhinol, a'r Peirianwyr Brenhinol y siaco hwn o 1844 hyd 1855.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Griffiths, Bruce a Jones, Dafydd Glyn. Geiriadur yr Academi (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995 [argraffiad 2006]), t. 1263 [shako].
  2. Griffin, P. D. Encyclopedia of Modern British Army Regiments (Thrupp, Sutton, 2006), t. 210.
  3. Carman, W. Y. A Dictionary of Military Uniform (Llundain, B.T. Batsford, 1977), t. 13.
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: