Siôn Cadwaladr

Oddi ar Wicipedia
Siôn Cadwaladr
Ganwyd18 g Edit this on Wikidata
Llanycil Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Cymru Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Blodeuodd1760 Edit this on Wikidata

Baledwr ac anterliwtwr o Feirionnydd yn y 18g oedd Siôn Cadwaladr neu John Cadwaladr (fl. 1760).

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ychydig o ffeithiau sydd gennym ni am ei fywyd personol. Cafodd ei eni ym mhlwyf Llanycil, ger Y Bala, yn chwarter cyntaf y 18g. Yn llanc ifanc, cafodd ei ddedfrydu i saith mlynedd o alltudiaeth yn y wladfa Brydeinig yng Ngogledd America (rhan o'r UDA heddiw) am ladrata hanner coron.

Ar ôl dychwelyd i Gymru dechreuodd ar yrfa fel baledwr crwydrol yng ngogledd Cymru. Ysgrifennodd sawl anterliwt hefyd, ac am yr rhain yn hytrach na'i gerddi y cofir amdano heddiw. Cedwir dwy mewn llawysgrif, sef Einion a Gwenllian (tua 1756) a Gaulove a Clarinda (tua 1756 - 1762?). Ysgrifennodd y drydedd, Dafydd a Gwraig Urias, ar y cyd â Huw Jones o Langwm. Chwedl werin Gymraeg am Einion ap Gwalchmai yw sail Einion a Gwenllian a'r brenin Beiblaidd Dafydd yw arwr Dafydd a Gwraig Urias.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Siôn Cadwaladr a Huw Jones, Dafydd a Gwraig Urias (c. 1765). Yr unig un o anterliwtiau Siôn a gyhoeddwyd.