Shiwawa

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Shiwawa

Ci arffed sy'n tarddu o Fecsico yw'r Shiwawa (lluosog: shiwawaod, shiwawas),[1] y Tsiwawa (lluosog: tsiwawas)[2] neu'r Siwawa (lluosog: siwawas).[3] Hwn yw'r brîd lleiaf o gi. Enwir y ci hwn ar ôl talaith Chihuahua. Credir iddo tarddu o'r Techichi, ci bach mud a gedwir gan y Tolteciaid ers y 9fed ganrif.[4]

Mae ganddo daldra o 13 cm (5 modfedd) ac yn pwyso 0.5 i 3 kg (1 i 6 o bwysau). Mae ganddo ben crwn, clustiau mawr sy'n sefyll i fyny, llygaid mawr, a chorff bach. Gall ei flew fod yn loyw ac yn llyfn neu'n hir a meddal, ac mae ei liw yn amrywio.[4]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Geiriadur yr Academi, [chihuahua].
  2.  tsiwawa. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 28 Medi 2014.
  3.  siwawa. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 28 Medi 2014.
  4. 4.0 4.1 (Saesneg) Chihuahua (breed of dog). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 28 Medi 2014.
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: