Shirley Temple
Actores a dawnswraig Americanaidd a ddaeth yn enwog fel actores ifanc eiconig yn y 1930au ac a dreuliodd gyfnod fel diplomydd a llysgenhad fel oedolyn yw Shirley Jane Temple (ganed 23 Ebrill 1928 yn Santa Monica, Califfornia, UDA). Dan ei henw llwyfan Shirley Temple, roedd hi'n un o ffigurau mwyaf adnabyddus America yn ystod y Dirwasgiad Mawr gan serennu mewn sawl ffilm Hollywood sentimentalaidd.
Rhydhaodd sawl cân lwyddiannus iawn, wedi'u cymryd o'i ffilmiau, yn cynnwys On the Good Ship Lolipop.
Mae sawl beirniad, yn cynnwys y nofelydd Graham Greene, wedi gweld ffimiau cynnar Temple fel enghreifftiau honedig o'r ffordd roedd Hollywood yn rhywiolaethu actorion ac actoresau ifainc. Ysbydolwyd Salvador Dali i greu'r darlun Shirley Temple, Anghenfil Sinema Mwyaf Ifanc, Mwyaf Sanctaidd, ei Hoes (teitl Saesneg arferol: Shirley Temple, The Youngest, Most Sacred Monster of the Cinema in Her Time). sy'n portreadu Temple fel sffincs.