Sherburn-in-Elmet

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Eglwys yr Holl Saint, Sherburn-in-Elmet

Pentref yn nosbarth Selby, Gogledd Swydd Efrog, Lloegr, yw Sherburn-in-Elmet. Mae'n gorwedd ger tref Selby. Poblogaeth: 5,750 (Cyfrifiad 2001).

Mae Sherburn yn un o ddau le yn yr ardal - Barwick-in-Elmet yw'r llall - a gysylltir wrth ei enw â'r hen deyrnas Elmet, un o deyrnasoedd Brythoniaid yr Hen Ogledd.

Yn ôl traddodiad lleol, codwyd yr eglwys leol, Eglwys yr Holl Saint, ar safle llys Elmet. Mae'r adeilad yn dyddio o 1120, ond rhoddwyd y safle i Archesgob Efrog gan Athelstan pan drodd yn Gristion yn y 10fed ganrif.