Sheikh Hasina Wazed
Oddi ar Wicipedia
Prif Weinidog Bangladesh 1996-2001 ac ers 9 Ionawr 2009 yw Sheikh Hasina Wazed (Bengaleg শেখ হাসিনা ওয়াজেদ ; Shekh Hasina Oajed) (ganwyd 28 Medi 1947).
Merch y gwleidydd Sheikh Mujibur Rahman yw hi. Cafodd ei hethol yn etholiad cyffredinol Rhagfyr 2008 ar ôl dwy flynedd o reolaeth ar y wlad gan luoedd milwrol Bangladesh. Rahman yw'r ferch gyntaf i gael ei hethol yn brif weinidog ei gwlad ac un o'r ychydig brif weinidogion benywaidd i arwain gwlad Fwslemaidd erioed.