Shapinsay
Oddi ar Wicipedia
Un o'r ynysoedd sy'n ffurfio Ynysoedd Erch yng ngogledd-ddwyrain yr Alban yw Shapinsay. Mae tua 7.5 km o hyd a 6 km o led, gydag arwynebedd o 29.5 km². Saif i'r gogledd-ddwyrain o'r brif ynys, Mainland, ac mae'r boblogaeth tua 300.
Yr unig bentref ar yr ynys yw Balfour. Ceir castell yma, ac oddi yma y mae'r fferi yn cysylltu'r ynys a Kirkwall, ar ynys Mainland. Mae dwy warchodfa natur ar yr ynys.
Adeiladau a chofadeiladau [golygu]
- Broch Burroughston
- Castell Balfour
- Tŵr Dishan