Shanidar

Oddi ar Wicipedia
Shanidar
Mathogof, safle archaeolegol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirArbil Edit this on Wikidata
GwladBaner Irac Irac
Cyfesurynnau36.8006°N 44.2433°E Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddZagros Edit this on Wikidata
Map
Golygfa ar Ogof Shanidar (gwelir dau ddyn o flaen y fynedfa, sy'n dangos maint yr ogof)

Mae safle archaeolegol Ogof Shanidar yn gorwedd yn nhroedfryniau Mynyddoedd Zagros yn nhalaith Arbil, gogledd-ddwyrain Irac. Cafodd ei gloddio rhwng 1957-1961 gan Ralph Solecki a'i dîm o Brifysgol Columbia. Yno y cafwyd yr enghreifftiau cyntaf o ysgerbydau oedolion Neanderthal yn Irac, sy'n dyddio o tua 60-80,000 o flynyddoedd yn ôl.

Cafwyd hyd i naw ysgerbwd Neanderthal yn y rhan o'r ogof anferth a gloddiwyd. Roedd eu hoedran a'u cyflwr yn amrywio (cawsant eu henwi yn Shanidar I - IX). Y pwysicaf o'r rhain yw Shanidar I a Shanidar IV (gweler isod).

Mae'r gweddillion pwysig hyn yn awgrymu'n gryf fod gan y Neandertaliaid ddefodau claddu, yn claddu eu meirw gyda blodau, a bod aelodau eraill o'r grŵp yn gofalu am unigolion clwyfedig. Mae hyn yn dystiolaeth sy'n gwrthdroi'n llwyr yr hen syniad am y Neandertaliaid fel creaduriaid cyntefig, lled-ddynol. Dim ond un ysgerbwd cyfan a chastiau plaster o'r lleill sydd i'w cael heddiw, yn y Sefydliad Smithsonian, ac ofnir fod y gweddillion a adawyd yn Irac ar wasgar heddiw.[1]

Y gweddillion[golygu | golygu cod]

Shanidar I[golygu | golygu cod]

Penglog "Shanidar I"

Roedd Shanidar I yn ddyn Neanderthal hŷn, a alwyd yn ‘Nandy’ gan ei gloddwyr. Roedd tua 40-50 oed, oedran barchus i ddyn Neanderthal sy'n cyfateb i oedran o tua 80 heddiw, ac mae ei sgerbwd yn dangos iddo ddioddef anafiadau difrifol. Rywbryd yn ystod ei fywyd cafodd ei daro'n arw ar ochr chwith ei wyneb a'i adawodd yn ddall neu led-ddall yn ei lygad chwith. Roedd ei fraich dde wedi cael ei dorri mewn sawl man ac wedi trwsio ond gan ei adael heb ddefnydd llawn o'i law dde a'i fraich. Yn ogystal byddai'n dioddef paralysis ar ei ochr dde ac yn methu cerdded yn iawn. Cafodd yr anafiadau hyn ymhell cyn ei farwolaeth, ac oherwydd hynny mae archaeolegwyr fforensig yn dadlau bod y Neandertaliaid eraill wedi gofalu amdano, sy'n dangos yn ei dro fod gan y bobl hynafol hyn "ymwybyddiaeth gymdeithasol" ac yn gofalu am unigolion yn eu grŵp.

Shanidar IV[golygu | golygu cod]

Adnabyddir Shanidar IV fel "claddedigaeth y blodau". Dyma'r ysgerbwd sy'n dangos y dystiolaeth orau am fodolaeth defodau claddu ymhlith y Neandertaliaid. Mae'n sgerbwd oedolyn gwrywaidd tua 30-45 oed a gladdiwyd ar ei ochr chwith mewn osgo fel foetus. Wyth mlynedd ar ôl ei ddarganfod cafwyd hyd i olion sy'n awgrymu fod blodau cyfan (neu eu pennau) wedi eu claddu gyda'r corff. Ar ben hynny mae dadansoddiad o'r neithdar yn awgrymu fod y blodau yn cael eu dewis am eu priodoleddau meddygol; yr amlycaf oedd milddail (neu 'llysiau gwaedlif'). Arweiniodd y ffaith hynny at y ddamcaniaeth fod yr unigolyn yn shaman o ryw fath, ac efallai'n "meddyg gwlad" neu "medicine man" i Neandertaliaid Shanidar. Fodd bynnag mae arbenigwyr eraill yn awgrymu y gallai anifeiliaid tebyg i gerbils fod yn gyfrifol am bresenoldeb y blodau.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Smithsonian Magazine, 03/2004, Beth Py-Lieberman: Found and Lost - (12/9/2006)

Dolen allanol[golygu | golygu cod]