Shahnameh

Oddi ar Wicipedia
Golygfa o'r Shahnameh

Cerdd epig neu arwrgerdd Berseg o [[Persia|w'r Shahnameh, hefyd Sjahnama ac amrywiadau eraill, "Llyfr y Brenhinoedd". Yr awdur oedd y bardd Persaidd Ferdawsi, a fu'n ei ysgrifennu dros gyfnod o flynyddoedd, yn gorffen tua 1008 neu 1010. Ysgrifennodd ei gampwaith yn llys Mahmud o Ghazni pan oedd tua 60 oed. Ystyrir y gerdd yn epig cenedlaethol yr hen Iranzamin (Iran, Tajicistan, Aserbaijan, Tyrcmenistan, Affganistan). Mae'n adrodd hanes Iran o'r cread hyd goncwest Iran gan yr Ymerodraeth Arabaidd yn y 7g.

Gyda tua 60,000 o benillion, mae'r Shahnameh ymhlith y cerddi hwyaf sydd wedi eu cadw. Mae'r rhan gyntaf yn fytholegol, yn adrodd hanes datblygiad cymdeithas ddynol, dofi anifeiliaid, y frwydr rhwng daioni a drygioni a dyfodiad Kaveh a Fereidoen gyda#i feibion Iraj, Tur a Salm. Yn y rhan ganol, ceir hanesion am yr arwr Rostam a'i deulu a'r brwydro rhwng Iran a Turan. Dechreua'r trydydd rhan gydag ymosodiad Alecsander Fawr ar Iran, ac mae'n rhoi hanes y Sassaniaid ac eraill, gan orffen gyda Brwydr Qadissiyya, pan orchfygwyd y Persiaid gan yr Araviaid.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Testun
  • Clinton, Jerome W. (cyf.), The Tragedy of Sohrab and Rostam: From the Persian National Epic, the Shahname of Abdol-Qasem Ferdowsi (Gwasg Prifysgol Washington, ail argraffiad, 1996) (Testun Perseg gyda chyfieithiad Saesneg cyfochrog, nodiadau a gloseg)