Shân Cothi

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Shân Cothi
Ganwyd Ffarmers, Sir Gaerfyrddin, Baner Cymru Cymru
Yn enwog am Phantom of the Opera, Con Passionate
Galwedigaeth Cantores, actores, cyflwynydd teledu

Cantores, actores a chyflwynydd teledu yw Shân Cothi Morgan.(ganwyd ?). Cafodd ei geni a'i magu yn Ffarmers, Sir Gaerfyrddin, yn ferch i of. Astudiodd gerddoriaeth a drama ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ers hynny, cafodd ei anrhydeddu gan Gymrodoriaethau wrth Brifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan.

Dechreuodd ei gyrfa fel athrawes gerddoriaeth yn Ysgol Uwchradd Caereinion, Powys cyn symud i Ysgol Gyfun Ystalyfera yn ne Cymru. Ym 1995, enillodd y Wobr Rhuban Glas aruchel yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abergele 1995 a anogodd hyn iddi droi'n gantores broffesiynol.

Mae Cothi wedi perfformio ledled y byd mewn amryw o leoliadau, o Ganolfan Mileniwm Cymru i'r West End, o Neuadd Albert Frenhinol i Westy Kowloon Shanghai, Hong Kong. Dengys ei gyrfa ei hystod eang o arddulliau cerddorol, o opera i oratorio, theatr gerdd i ganeuon traddodiadol Cymreig.

Ym 1998-1999, cafodd Cothi ei rhaglen deledu ei hun ar S4C a redodd am ddwy gyfres. Enillodd wobr BAFTA hefyd a chafodd ei henwebu am y rhaglen gerddoriaeth orau yng Ngŵyl Montreaux.

Daeth llwyddiant mawr Cothi ar ôl iddi gael clyweliad gyda Syr Cameron Mackintosh. Yn 2000, cynigiwyd rôl Carlotta tanllyd iddi yn sioe gerdd yr Arglwydd Andrew Lloyd Webber, Phantom of the Opera. Perfformiodd y rôl am 15 mis yn Theatr y Frenhines yn y West End.

Yn 2005, cafodd Cothi rhan Davina Roberts, arweinydd "Côr Meibion Gwili" yn y gyfres ddrama deledu Con Passionate ar S4C. Roedd y sioe yn llwyddiant ysgubol, gan ennill sawl BAFTA a'r wobr gyntaf yn seremoni gwobrwyo Rose d'Or. Yn 2008, ail-recordiodd Shân, ynghyd a Bryn Terfel a gweddill aelodau Tigertailz y gân "I Believe" yn ogystal a fideo sy'n newid rhwng Terfel a Cothi'n canu eu rhannau hwy o'r gân.

Yn 2009, dechreuodd Shân gyd-gyflwyno'r gyfres Bro ar S4C gydag Iolo Williams - cyfres sy'n eu gweld nhw'n teithio i bob cwr o Gymru i ddod i adnabod ardaloedd yn well, drwy'r tirlun, yr hanes a'r bobl sy'n byw yno.

Ar 30 Awst, 2007 priododd ei phartner hir-dymor Huw Justin Smith, a adwaenir orau fel y cerddor Pepsi Tate. Ar y 18 Medi, 2007, lai na mis wedi iddynt briodi bu farw Smith o gancr y pancreas ym Mhenarth, Caerdydd.[1]

Teledu[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Farewell event for rock musician. BBC Wales. Adalwyd 30-08-2009
Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.