Sgwrs Wicipedia:Croeso, newydd-ddyfodiaid

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Tybed oes modd rhoi rhyw gais ar y dudalen hon i geisio cael rhyw fath o safon i'r Gymraeg yn Wicipedia. Dw i'n siwr bod cyfranwyr yn gwneud eu gorau ond mae cymaint o dudalennau yma sydd yn gwbwl annealladwy oherwydd bod cyfranwyr sydd a'i Cymraeg yn llawer rhy brin, yn llawr rhy uchelgeisiol. Mae hyn yn ei dro yn cadw rhai sydd a Chymraeg mwy sicr draw oddi yma. ac felly mae mwy a mwy o dudalennau yma yn annealladwy.

Mae yn dorcalonnus gweld mwy a mwy o dudallenau felly ac er fy mod yn ceisio cywiro cymaint ag a allaf ond mae'n fwy ac yn fwy anodd. Dyfrig 21:43, 24 Gorffennaf 2005 (UTC)[ateb]

Ailwampiad[golygu cod]

Dwi newydd ailwampio'r nodyn hwn, ar gael yma . . . . OND, mae'n edrych fel mae e ar hyn o bryd, ac dwi ddim yn siŵr pam :( Mae'r union un â'r un ar en. All rhywun edrych arno fe, plîs? Bydd yn neis i gael e ar fyw yn fuan, gan fod bron yr un safon â'r Saesneg (barn dueddol, 'falle?! :D) -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 02:16, 3 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]

Paid poeni nawr - dwi wedi datrys fe nawr :) Roeddwn yn defnyddio "pennawd-blwch" ar ddiwedd y cod yn lle "troedyn-blwch". Ta waith - ewch ato a dweud eich dweud amdano fan hyn - dwi wedi ceisio cynnwys testun yr hen fersiwn (yr un sy'n bodoli'n awr), ac yn meddwl ei fod yn dda :) Yr unig beth rydym angen ei wneud yw "Awgrym y dydd". Os does dim gwrthwynebiad, bydda i'n trosglwyddo'r "Ailwampiad" yn fuan. -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 00:40, 4 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]
Iawn te. Os does dim gwrthwynebiad erbyn Dydd Gwener, trosglwyddaf y wybodaeth i gyd er mwyn disodli'r un cyfredol. Dyma'ch cyfle "olaf" (ond nid go iawn!) i ddweud eich dweud ac ychwanegu ato/ei wella. -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 16:27, 7 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]
Newydd gweld hyn rwan, Glenn. Mae'n edrych yn wych ond mae angen cywiro ambell fanylyn iaith. Efo lwc caf yr amser i wneud hynny cyn dydd Gwener ond fel arall dwi'n croesawu'r nodyn newydd sy'n lliwgar a deniadol (arbennig o hoff o'r ffordd mae 'Croeso' yn newid iaith!). Anatiomaros 16:39, 7 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]
Dim gwrthwynebiad fan hyn chwaith. Mae'n edrych yn gret! Yr un beth beth fydden i'n awgrymu yw peidio rhoi'r blwch "Awgrym y Diwrnod" arno. Gallai fod yn waith llafurus i rywun roi syniad newydd bob dydd. A oes modd cael y dudalen heb y blwch? Pwyll 19:09, 7 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]
Ie, gwn i. Os oedd mwy o amser 'da fi, wedyn bydda i'n fodlon gwneud fe. Bydda i'n tynnu fe allan nawr :) Arhosaf nes ddydd Gwener jyst i roi diogon o amser i bobl eraill gael eu dweud 'fyd. -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 22:05, 7 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]

Dwi newydd roi'r ailwampiad ar fyw. Yr unig beth rydym angen ei wneud yw creu'r tudalennau coch. Anatiomaros - dwi newydd weld dy sylwad am y "croes" sy'n newid; dwi ddim yn gwybod sut i wneud fe, ond tybed oes modd i rywun greu jpeg newydd sy'n cynnwys y gair "Croeso" hefyd? 'Sdim angen fe, ond dwi'n meddwl y byddai'n neis i'w gael :) -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 01:56, 12 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]